Archif Newyddion

04/12/2013 - 13:48
Bydd dirprwyaeth o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cwrdd â'r Gweinidog Carl Sargeant wythnos nesaf i drafod y Bil Cynllunio drafft a gafodd ei gyhoeddi heddiw.
02/12/2013 - 15:47
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi condemnio’r toriadau i’r rhaglen Cymraeg i Oedolion gan rybuddio y bydd yn arwain at lai o siaradwyr Cymraeg. Heddiw, mae’r Prif Weinidog a’r Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi toriad o 8% ar gyfer y rhaglen Cymraeg i Oedolion y flwyddyn nesaf. Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Robin Farrar:
28/11/2013 - 12:07
Daeth 50 o aelodau Cymdeithas yr Iaith a rhieni o ysgolion pentrefol Cymraeg yng Ngheredigion i gyntedd pencadlys Cyngor Ceredigion wrth i Estyn gynnal arolwg o'r Cyngor Sir. Roedd eu posteri yn galw am "ESTYN ALLAN at ein cymunedau" a phosteri'n mynnu dyfodol i nifer o ysgolion pentrefol Cymraeg y sir sydd tan fygythiad; a'r protestwyr yn targedu'r Cyngor Sir ac hefyd ESTYN sydd i raddau helaeth yn gyrru'r broses o ymosod ar ein hysgolion. Wrth siarad gyda rhieni dyweddodd llefarydd y Gymdeithas ar addysg, Ffred Ffransis:
26/11/2013 - 11:21
Mae ymgyrchwyr iaith wedi gwneud cwyn wedi pryderon am y diffyg clybiau nofio cyfrwng Cymraeg ar gael ym mhwll nofio Ynys Mon, er bod mwyafrif trigolion y sir yn siarad Cymraeg. Mae'r mudiad iaith Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dweud bod angen hawliau clir i wasanaethau hamdden yn Gymraeg yn y safonau a fydd yn cael eu cyhoeddi gan y Llywodraeth yn y flwyddyn newydd.
22/11/2013 - 12:08
Mae ymgyrchwyr iaith wedi dweud bod y newidiadau i Radio Cymru yn profi bod angen sefydlu darparwr Cymraeg annibynnol newydd yn ychwanegol at ddarpariaeth y BBC.
19/11/2013 - 17:33
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi toriad o dros £1.5 miliwn i fuddsoddiad yn y Gymraeg. Yn ôl y gyllideb ddrafft, bydd y gwariant ar yr iaith Gymraeg yn cwympo o £25,076,000 eleni i £24,376,000 yn 2014-15, gan gwympo ymhellach i  £23,511,000 yn 2015-16. Byddai hynny’n doriad o £700,000 y flwyddyn nesaf a £856,000 yn y flwyddyn ganlynol.
19/11/2013 - 16:39
Mae'r mudiad iaith Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y cyd ac Ymgyrch Achub Penrhos, wedi gyrru llythyr at y Gweinidog Cynllunio heddiw (Dydd Llun, Tachwedd 18) yn gofyn iddo alw cais cynllunio tai gwyliau Land & Lakes i fewn.
15/11/2013 - 11:31
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu adroddiad Comisiynydd y Gymraeg am bolisi iaith Cyngor Torfaen ar ôl i’r awdurdod lansio llinell ffôn uniaith Saesneg yn gynharach eleni.
12/11/2013 - 17:26
Mae ymgyrchwyr wedi disgrifio datganiad y Prif Weinidog am y Gynhadledd Fawr fel un ‘chwerthinllyd’ sy’n anwybyddu prif gasgliadau’r ymgynghoriad ac yn awgrymu nad yw'r Llywodraeth yn cymryd argyfwng yr iaith o ddifrif o gwbl. Yn y Senedd heddiw, cyhoeddodd y Prif Weinidog ddatganiad am y camau nesaf yn ei “Gynhadledd Fawr” ynghylch cyflwr yr iaith.
08/11/2013 - 17:58
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i benderfyniad pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Ynys Môn ynghylch cais cynllunio Land & Lakes am dai gwyliau ym Mhenrhos. Yn gynharach yn y dydd, daeth hanner cant o bobl ynghyd mewn rali er mwyn galw ar bwyllgor cynllunio'r Cyngor i gadw at ei benderfyniad i beidio â chymeradwyo cais cynllunio gan gwmni Land & Lakes i adeiladu tai gwyliau ar yr ynys. Dywedodd Osian Jones Trefnydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y Gogledd: “Rydyn