Archif Newyddion

01/06/2013 - 09:21
Dawns oedd cyfrwng ymdrech i ‘ysgwyd diwylliant Cymraeg cyfoes yn rhydd o othrwm darlledwyr Prydain Fawr’ ar faes y brifwyl heddiw wrth i fflachdorf ymgynnull i alw am ddarlledwr Cymraeg newydd.
31/05/2013 - 16:28
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i lansiad swyddogol Cynhadledd Fawr Llywodraeth Cymru.
30/05/2013 - 09:25
Mae pobl ifanc wedi herio’r Prif Weinidog Carwyn Jones i sefydlu hawliau iddynt ddefnyddio Cymraeg tu allan i gatiau'r ysgol mewn protest ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw.
27/05/2013 - 15:20
Daeth ymgyrchwyr iaith o hyd i Leighton Andrews ar eu helfa drysor ar faes yr Eisteddfod heddiw (Dydd Llun Mai 27) ond doedd dim golwg o’r rheolau cynllunio newydd. Ym mis Mehefin 2011, daeth ymgynghoriad i ben ar ganllawiau cynllunio newydd - TAN 20 - sydd yn disgrifio sut y dylai awdurdodau ystyried effaith y broses ddatblygu ar y Gymraeg. Cafodd y canllawiau presennol eu cyhoeddi dair blynedd ar ddeg yn ôl.
24/05/2013 - 18:40
  Wrth ymateb i'r newyddion fod cais cynllunio ar gyfer datblygiad o 61 o dai yn ardal Llanymddyfri mae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan pryder pellach nad yw canllawiau cynllunio ar y Gymraeg, TAN20, yn cael ei ryddhau. Meddai Sioned Elin o Gymdeithas yr Iaith:
24/05/2013 - 11:51
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhoeddi manylion ynglŷn â’u harlwy adloniant yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych eleni. Mae’r Gymdeithas wedi bod yn rhoi llwyfan i gerddoriaeth Gymraeg yn ardal yr Eisteddfod ers degawdau, a bydd hynny’n parhau eleni eto ond wedi ei gyfuno ag amrywiaeth o ddigwyddiadau amgen yn ogystal. Dywedodd Gwion Schiavone ar ran y Pwyllgor sydd yn trefnu'r digwyddiadau.
22/05/2013 - 08:52
Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw i benderfyniad Cyngor Gwynedd i gau Ysgolion Carmel a Fron i gael ei gyfeirio at gyfarfod o'r Cyngor llaw.   Dywedodd Osian Jones – swyddog rhanbarth y gogledd Cymdeithas yr Iaith.   “Dyma'r penderfyniad cyntaf y Cyngor i gau ysgolion pentrefol Cymraeg yn dilyn cyhoeddi ffigyrau'r Cyfrifiad, sydd wedi dangos bod bygythiad i ddyfodol y Gymraeg”
21/05/2013 - 17:06
Aeth ymgyrchwyr sydd yn gwrthwynebu stad o dai newydd ym Mhenybanc Sir Gaerfyrddin â’u hachos i’r Cynulliad heddiw.  
21/05/2013 - 13:47
Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw i benderfyniad Cyngor Gwynedd i gau Ysgolion Carmel a Fron i gael ei gyfeirio at gyfarfod o'r Cyngor llaw.   Dywedodd Osian Jones – swyddog rhanbarth y gogledd Cymdeithas yr Iaith.   “Dyma'r penderfyniad cyntaf y Cyngor i gau ysgolion pentrefol Cymraeg yn dilyn cyhoeddi ffigyrau'r Cyfrifiad, sydd wedi dangos bod bygythiad i ddyfodol y Gymraeg”
17/05/2013 - 21:00
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i ddatganiad Leighton Andrews am yr amserlen ar gyfer datblygu safonau iaith. Dywedodd Sian Howys, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: