Archif Newyddion

25/03/2006 - 19:51
Heddiw (Sadwrn 25, Mawrth), yng Nghyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Aberystwyth, bydd aelodau yn clywed bod dadleuon y mudiad o blaid Deddf Iaith Newydd bellach wedi ennill cefnogaeth eang ymhlith cyrff a phleidiau gwleidyddol ar draws Cymru. Ymhellach, clywir am dystiolaeth rhyngwladol sydd yn cadarnhau fod deddfwriaeth o’r fath yn allweddol os am ehangu’r defnydd o’r iaith Gymraeg.
23/03/2006 - 14:06
Dydd Sadwrn yma, (Mawrth 25ain) bydd Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a gynhelir yn Aberystwyth, yn cael cyfle i glywed tystiolaeth rhyngwladol o bwysigrwydd deddfwriaeth gadarn yn y dasg o adfer iaith leiafrifol.
23/03/2006 - 00:20
Cafodd cyfarfod lobio pwysig ei gynnal yn y Cynulliad Cenedlaethol heddiw dan y teitl 'Y Gymraeg – Hawliau Cyfartal?'. Trefnwyd y cyfarfod gyda chymorth Leanne Wood AC.
08/03/2006 - 11:14
Danfonodd Rhanbarth Ceredigion o Gymdeithas Yr Iaith lythyr at Carwyn Jones, Gweinidog Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad Llywodraeth y Cynulliad, heddiw gan son am eu pryder ynglyn â chasgliadau'r Ymchwiliad Cyhoeddus a gynhaliwyd i gynnwys Cynllun Datblygu Unedol Cyngor Ceredigion.
02/03/2006 - 12:09
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi condemnio Cyngor Sir Gâr am feddwl, unwaith eto, fod y bobl leol yn rhy dwp i lenwi un o brif swyddi'r Cyngor Sir. Mae'r swydd Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad) wedi ei hysbysebu am £88,600pa gydag amod am 'Sgiliau Cyfathrebu' ei fod yn hanfodol i ymgeiswyr gael 'Sgiliau Siarad ac Ysgrifennu Saesneg'.
01/03/2006 - 13:53
Bydd aelodau Cymdeithas yr Iaith yn ymuno â’r protestiadau ar Fawrth y 1af eleni - diwrnod agoriad swyddogol adeilad newydd y Cynulliad Cenedlaethol. Mae’r Gymdeithas am hoelio sylw Rhodri Morgan a’i lywodraeth at yr angen am ddeddfwriaeth newydd ym maes y Gymraeg.
28/02/2006 - 10:00
Bydd digwyddiadau go ryfedd yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin heddiw. Am 10am bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal Arwerthiant Cyhoeddus o asedau nifer o swyddogion ac aelodau cabinet y Cyngor Sir - a hynny heb eu caniatad.
27/02/2006 - 16:56
Ar drothwy dathliadau agor adeilad newydd y Cynulliad Cenedlaethol, bu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw unwaith eto am Ddeddf Iaith newydd heddiw trwy ddadorchuddio bilfwrdd dychanol o Rhodri Morgan. Yno yn cefnogi'r ymgyrch oedd Leanne Wood AC ac Owen John Tomos AC ar ran Plaid Cymru
23/02/2006 - 17:12
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi beirniadu’n hallt gasgliadau’r Ymchwiliad Cyhoeddus a gynhaliwyd i gynnwys Cynllun Datblygu Unedol Cyngor Ceredigion. Yn nhyb y mudiad, mae canfyddiadau’r arolygwyr – Mr Alwyn Nixon a Ms Stephanie Chivers – yn dangos fod yna anallu sylfaenol o fewn y drefn gynllunio bresennol i ymdrin yn effeithiol ag anghenion yr iaith Gymraeg.
21/02/2006 - 18:26
Pan ddaw Rhodri Morgan - Prif Weinidog Cymru - i Neuadd Goffa Penparcau i annerch Plaid Lafur Aberystwyth (Nos Fercher 22ain), bydd yn dod wyneb yn wyneb â Gwenno Teifi, aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg a garcharwyd am bum niwrnod yr wythnos ddiwethaf am ei safiad dros Ddeddf Iaith newydd.