Bydd nos Iau'r Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe eleni yn ddathliad o gerddoriaeth hip-hop Cymraeg wrth i'r arloeswyr yn y maes, Llwybr Llaethog, berfformio set arbennig yng Nghlwb Barons i ddathlu 20 mlynedd ers iddyn nhw ryddhau'r deunydd rap cyntaf yn yr iaith.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi beirniadu Strategaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar gyfer ehangu'r defnydd o'r Gymraeg yn y sector breifat yn hallt, ac wedi galw'r ddogfen a gyhoeddir heddiw yn 'siom enbyd.' Mae'r strategaeth yn amlinellu cynlluniau'r Bwrdd i geisio sicrhau bod mwy o gwmniau preifat yn cynnig gwasanaethau
Bydd cyn aelod y band Gorkys Zygotic Mynci, Euros Childs, yn perfformio yng nghlwb Barons yn Abertawe ar nos Fawrth 8fed Awst fel rhan o wythnos o gigs gwych fydd yn cael eu cynnal yno yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ysgrifennu llythyr at Dafydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, yn datgan eu gwrthwynebiad llwyr i'w awgrym y dylid cwtogi ar y cyfieithu o'r 'Cofnod' er mwyn arbed arian.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dangos eu cefnogaeth i alwadau Joan Bernat ASE trwy lythyru holl aelodau Cymru o’r Senedd Ewropeaidd yn gofyn iddynt hwythau gefnogi a phleidleisio dros argymhellion Joan Bernat.
Bydd cyfle i ddilynwyr cerddoriaeth Gymraeg weld talentau’r dyfodol wrth i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg gynnal rhagbrofion cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2006 dros y bythefnos nesaf.
Y bore ma daeth 75 o gynrychiolwyr o 12 o ysgolion ynghyd a Merched y Wawr ac Undeb Ffermwyr Cymru i Neuadd y Sir, Caerfyrddin i roi negeseuon o gefnogaeth i frwydr Ysgol Mynyddcerrig dros ei dyfodol. Daeth pob cynrychiolydd a charreg o'u hardal nhw i adeiladu mynydd bach o gerrig o flaen Neuadd y Sir fel cyfraniad pellach at y broses ymgynghori ar ddyfodol yr ysgol.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu nifer o welliannau gan aelodau o wrthbleidiau'r Cynulliad Cenedlaethol i gynnig gan y Llywodraeth Lafur sy'n datgan na ddylid cyflwyno dyletswyddau statudol newydd y tu hwnt i Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.
Mae Ysgol Mynyddcerrig wedi ennill y rownd gyntaf o'i brwydr yn erbyn Cyngor Sir Caerfyrddin sydd am gau'r ysgol. Yn wyneb brwydr fawr dros yr ysgol - a arweinir gan Gymdeithas yr Iaith - mae'r Cyngor Sir newydd gyhoeddi y bydd yn ildio i'r cais am estyn y 'cyfnod ymgynghori' am fis ychwanegol.