Bydd y faner yn mynd ar daith o amgylch Cymru yn ystod yr wythnosau nesaf gan alw draw i Eisteddfod yr Urdd yn Rhuthun ac i achos llys Angharad Blythe yng Nghaerdydd ar y 6ed o Fehefin.Mae Angharad yn gwynebu achos o ddifrod troseddol yn erbyn Llywodraeth Cynulliad Cymru yn dilyn gweithred ym mis Rhagfyr pan beintiwyd slogan ar Bencadlys y Llywodraeth ym Mharc Cathays yn galw am Ddeddf Iaith Newydd.
Heddiw, cyhoeddodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg eu hymateb i'r Papur Ymgynghorol ar uno Bwrdd yr Iaith gyda'r Cynulliad. Mae eu hymateb yn pwysleisio nad yw'r Dyfarnydd a ddaw yn lle'r Bwrdd yn gorff â digon o statws a grym.
Yn nhyb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, mae'r datblygiad arfaethiedig o ddeuddeg aneddle newydd ar safle'r Wern ym Mhenmorfa, ger Porthmadog, yn brawf pellach o'r modd nad yw lles yr iaith Gymraeg yn derbyn sylw teilwng mewn perthynas a phenderfyniadau ym maes cynllunio.
Mae'n fwriad gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg anrhydeddu Eileen Beasley yn yr Wyl Fawr i Ddathlu'r Gymraeg a gynhelir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth am 2 o'r gloch Dydd Sadwrn Mehefin 10fed.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo Cyngor Sir Gâr o sgorio gôl ryfeddol yn ei rwyd ei hun wrth hyrwyddo wythnos "cerdded i'r ysgol" ar yr union adeg y mae'n ceisio cau degau o ysgolion pentref.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi eu tristhau o glywed fod dau Gymro Cymraeg wedi eu rhwystro rhag siarad Cymraeg yn y 'Big Brother House'. Nonsens llwyr oedd gwahodd dau Gymro Cymraeg naturiol i gymryd rhan ac yna eu gwahardd rhag siarad eu hiaith gyntaf.
Fel arfer, bydd amrywiaeth eang o artistiaid cerddorol yn diddanu eisteddfodwyr Abertawe eleni, wrth i Gymdeithas yr Iaith gyhoeddi eu lineups cyffrous ar gyfer yr wythnos.Bydd y Gymdeithas, a enillodd wobr 'Digwyddiad Byw y Flwyddyn, Gwobrau RAP C2' am ei gigs yn Eisteddfod 2005, yn defnyddio dwy ganolfan yn ystod yr wythnos, eleni.
Holwyd y Gweinidog Iaith a Diwylliant, Alun Pugh, yn galed yn Abertawe neithiwr yn ystod cyfarfod o'r Fforwm Iaith. Yn ystod cyfnod o ymgynghori'r llywodraeth ynglŷn â diddymu Bwrdd yr iaith Gymraeg, galwodd yr aelodau am ddeddf iaith newydd a thynnwyd sylw'r gweinidog at yr ŵyl fawr dros Ddeddf Iaith Newydd yn Aberystwyth ar y 10fed o Fehefin.
Arestiwyd 2 aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg heddiw, a dirwywyd 9 arall £80 yn y man a'r lle ar ol iddynt gadwyno eu hunain i adeilad Llywodraeth y Cynulliad yng Nghaernarfon. Buont yno ers 11.30am y bore 'ma yn gweiddi 'Deddf Iaith newydd', ac yn arddangos baneri.
Am 12.30 prynhawn heddiw arestiwyd naw aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg oedd wedi cadwyno eu hunain at ddrws blaen yr Hen Swyddfa Gymreig ym Mharc Cathays. Penderfynodd y protestwyr gadwyno eu hunain at adeilad y llywodraeth er mwyn hoelio sylw at yr angen am Ddeddf Iaith Newydd.