Archif Newyddion

25/01/2006 - 12:34
Am 10 y bore yma fe fydd Cabinet Cyngor Sir Ceredigion yn cyfarfod i drafod rhai o gasgliadau yr Arolygwyr annibynol a arweiniodd yr ymchwiliad cyhoeddus a oedd yn edrych ar Gynllun Datblygu Unedol y sir. Yn nhyb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, mae honiadau arweinwyr Cyngor Ceredigion ynglyn â chasgliadau yr Ymchwiliad Cyhoeddus hwn yn gamarweiniol.
23/01/2006 - 10:38
Nos Fawrth, 24ain o Ionawr yng Nghanolfan y Mileniwm Caerdydd bydd Cyfarfod Cyhoeddus yn cael ei gynnal er mwyn ymgynghori ar yr angen am Ddeddfwriaeth Newydd ym maes y Gymraeg. Daw’r cyfarfod yn dilyn cyfnod o drafodaeth wleidyddol ac ymgynghori â phleidiau gwleidyddol.
20/01/2006 - 18:06
Fe gododd aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar eu traed yn Llys Ynadon Caerdydd heddiw a llongyfarch yr Ynadon am iddynt ddanfon arwydd clir at y Cynulliad trwy osod y ddirwy leiaf hyd yma ar unrhyw ddiffynydd yn dilyn ei rhan yn yr ymgyrch ddiweddar dros Ddeddf Iaith Newydd. Yno i fynegi ei chefnogaeth i'r ymgyrch roedd yr actores Iola Gregory a nifer o aelodau'r cyhoedd.
19/01/2006 - 21:55
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn croesawu datganiad Bwrdd yr Iaith Gymraeg fod angen adolygu Deddf Iaith 1993. Dywedodd Dafydd Morgan Lewis ar ran y Gymdeithas:"Mae’r datganiad hwn wnaed gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg heddiw yn gosod y Bwrdd yn yr un gwersyll â’r rhai sydd fel ni yn galw am Ddeddf Iaith gryfach.
16/01/2006 - 17:03
Fe ymddangosodd Gwenno Teifi, aelod 18 oed o Gymdeithas yr Iaith yn Llys Ynadon Caerfyrddin ddydd Llun diwethaf 9/1, am iddi wrthod talu iawndal a chostau llys o £200 yn dilyn protest yn stiwdio Radio Sir Gar yn 2004.
09/01/2006 - 15:46
Torwyd ar draws gwrandawiad yn Llys Ynadon Caerfyrddin heddiw pan feddianwyd yr ystafell gan 25 o aelodau Cymdeithas yr Iaith pan ddaeth yn amlwg nad oedd unrhyw ddarpariaeth ar gyfer achos Gymraeg yn erbyn aelod o'r Gymdeithas a oedd yn wynebu carchar.
04/01/2006 - 16:02
Mewn cyfarfod y prynhawn yma gyda phrif Swyddogion a Chynghorwyr Ceredigion, bydd dirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith yn llongyfarch y Cyngor ar eu hymrwymiad at ysgolion pentref sydd yn cymharu'n ffafriol iawn gyda pholisiau dinistriol Cyngor Sir Gar. Ond bydd y Gymdeithas yn dweud wrthynt bod gwendid sylfaenol yn eu hargymhellion i adolygu ysgolion, a gynhwysir mewn papur ymgynghorol cyfredol.
02/01/2006 - 16:43
Daeth dau gant o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i Rali Calan y Mudiad gynhaliwyd yng Nghaerdydd heddiw. Yn y rali datganodd Steffan Webb, Rheolwr Menter Iaith Rhondda Cynon Taf, ei gefnogaeth i Ddeddf Iaith Newydd.
02/01/2006 - 13:49
Am 2 o'r gloch heddiw bydd Rali-brotest Deddf Iaith yn cael ei chynnal ar Stryd y Frehnines, Caerdydd (cychwyn ger cerflun Aneurin Bevan). Bwriad y rali yw crisialu holl ymgyrchoedd gwahanol Cymdeithas yr Iaith a fu’n tynnu sylw at yr angen am Ddeddf Iaith Newydd.
29/12/2005 - 14:59