Llongyfarchiadau mawr iawn i Owain Schiavone a gweddill grwp adloniant Cymdeithas yr Iaith, trefnwyr gigs 'Steddfod 2005 y Gymdeithas yn Eryri y llynedd, am ennill gwobr 'Digwyddiad Byw y Flwyddyn' yng ngwobrau RAP 2006 dros y penwythnos.
Yn dilyn rhyddhau Gwenno Teifi o garchar yn gynharach yn ystod y dydd, paentiodd aelodau o Gymdeithas yr Iaith y geiriau 'Deddf Iaith – dyma’r cyfle!' a 'Da iawn Gwenno'ar waliau Stiwdio Radio Sir Gâr yn Arberth neithiwr.
Bydd 28 o fyfyriwr Prifysgol Cymru Aberystwyth a Bangor, yn cynnal ympryd rhwng 9yb heddiw hyd nes i Gwenno Teifi gael ei rhyddhau o'r carchar, er mwyn dangos cefnogaeth iddi a'i safiad dewr dros Ddeddf iaith Newydd, yn dilyn ei charchariad gan Llys Ynadon Caerfyrddin ddoe.
Mae Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Steffan Cravos wedi herio Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, trwy ebost i ymweld a'r carcharor Gwenno Teifi yfory yn HMP Eastwood Park ger Caerloyw i drafod yr angen am Ddeddf Iaith Newydd.
Dywed Steffan Cravos:"Mae merch 19 oed yn y carchar oherwydd methiant llywodraeth y Cynulliad. Dylai Rhodri Morgan, o'i fan gyfforddus, ystyried ymweld â'r carchar."
Cafodd Gwenno Teifi, aelod 19 oed o Gymdeithas yr Iaith, ei charcharu am 5 niwrnod heddiw gan Llys Ynadon Caerfyrddin. Mae Gwenno Teifi, o Lanfihangel-ar-arth yn fyfyriwr flwyddyn gyntaf yng Ngholeg y Brifysgol Aberystwyth. Cafodd Gwenno ei dedfrydu yn yr union fan (Sgwar Caerfyrddin) lle cyhoeddwyd llwyddiant ei thadcu, Gwynfor Evans, deugain mlynedd ynghynt.
Mae Cymdeithas yr iaith yn cyhuddo swyddogion Cyngor Sir Caerfyrddin o geisio gorfodi aelodau etholedig i roi sel eu bendith ar gynlluniau gwario ar gyfres o ysgolion ardal canolog drwy'r sir, cyn iddynt gychwyn ar y broses o ymgynghori ar ddyfodol yr ysgolion pentrefol y byddid yn eu disodli.
Ymddangosodd y degfed aelod on Gymdeithas yr Iaith Gymraeg o fewn cyfnod o lai na dau fis ger bron Llys Ynadon Caerdydd heddiw am achosi difrod troseddol i adeilad Llywodraeth Cymru fel rhan o’r ymgyrch dros Ddeddf Iaith. Derbyniodd Gwyn Sion Ifan, rheolwr Awen Meirion, Y Bala ddirwy o £450 am beintio’r slogan ‘Deddf Iaith’ ar y wal.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, prif drefnwyr gigiau Cymraeg, wedi cyhoeddi cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2006 gyda’r ffeinal i’w chynnal yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe fis Awst, a’r pecyn gwobrau gorau eto i’r enillwyr lwcus.
Bu cyfarfod llwyddiannus iawn, gyda'r stafell gynhadleddau yn llawn, yng nghanolfan y Mileniwm neithiwr i drafod yr angen am Ddeddf Iaith Newydd . Cafwyd ymateb candarhaol gan yr holl wrth-bleidiau a oedd yn bresennol, ac roedd consensws barn yn benodol am yr angen am statws swyddogol i'r Gymraeg, hawliau i'r Gymraeg a'r angen am gomisiynydd iaith annibynol.