Mae cynrhychiolwyr o Undeb Amaethwyr Cymru, a 10 o ysgolion pentref ynghyd a chynghorydd Cynnwyl Gaeo wedi addo rhoi eu cefnogaeth i'r frwydr i achub ysgol Mynyddcerrig. Byddant yn datgan eu negeseuon o gefnogaeth mewn Cyfarfod Protest o flaen Neuadd y Sir am 9.30 fore Mercher, Gorffennaf 12ed cyn cyfarfod llawn o'r Cyngor.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo Swyddogion Addysg Sir Gâr o ddefnyddio'r un hen driciau wrth geisio rhwystro trafodaeth ar draws y sir ynglyn a'i Strategaeth Moderneddio Addysg a allai arwan at gau hyd at 40 ysgol bentrefol Gymraeg yn y Sir.
Bydd cyfle i fynychwyr gigs yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe weld hyd yn oed mwy o fandiau'n perfformio yn y brifwyl eleni. I gyd-fynd â hyn bydd y thema '5' yn amlwg iawn hefyd wrth i Gymdeithas yr Iaith gyhoeddi y bydd 5 band yn perfformio am 5 noson yn eu canolfan Bar 5 yng nghanol Abertawe.
Heddiw (Sadwrn, Mehefin 10) yn ei Gwyl Fawr dros Ddeddf Iaith Newydd, a gynhelir yn y Neuadd Fawr yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw ar bob un o wrthbleidiau’r Cynulliad i gydweithio er mwyn sicrhau bod y Llywodraeth Lafur yn ymateb i’r angen am Ddeddf Iaith Newydd.
Ddeuddeg awr wedi rhwystro swyddogion addysg y Cyngor Sir rhag ymadael a maes parcio, mae Cymdeithas yr Iaith wedi gweithredu yn erbyn un arall o benderfyniadau dadleuol Cyngor Sir Caerfyrddin. Arestiwyd 2 aelod o Gymdeithas yr Iaith y bore yma am dynnu arwydd uniaith Saesneg enfawr sy'n dynodi safle datblygiad newydd Debenhams yn nhre Caerfyrddin.
Bu 50 o aelodau Cymdeithas yr Iaith a Fforwm Ysgolion Cynradd Sir Gâr yn rhwystro cerbyd swyddogion addysg Cyngor Sir Caerfyrddin rhag ymadael a'r maes parcio cymunedol ym Mynydd Cerrig am awr o hyd neithiwr (Iau 08/06/06), yn dilyn cyfarfodydd o ymgynghori am ddyfodol yr ysgol gyda rhieni a llywodraethwyr.
Bore fory (Gwener 9/6/06), cynhelir cyfarfod pwysig rhwng Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a chynrychiolwyr o'r Blaid Geidwadol er mwyn trafod yr angen am Ddeddf Iaith Newydd.
Prynhawn yma yn Llys Ynadon Caerdydd cafodd achos Llys yn erbyn Angharad Blythe ei ohirio tan Awst 2il am fod yr wys a dderbyniodd i ymddangos ger bron y llys heddiw yn uniaith Saesneg.
Am 1pm yfory (Dydd Sadwrn 3ydd o Fehefin) cynhelir seminar chwyldroadol yn Uned Llywodraeth y Cynulliad ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Rhuthun. Bydd y seminar yn ystyried cynnig Cymdeithas yr Iaith y dylid sefydlu Coleg Aml-safle Cymraeg.
Am 1pm heddiw, tu allan i Uned Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Rhuthun bydd Cymdeithas yr Iaith yn lansio Deiseb Genedlaethol dros Ddeddf Iaith Newydd.