Mae 6 aelod o Gymdeithas yr Iaith wedi llwyddo i fynd ar dô Prifysgol Bangor i ymuno a'r 15 aelod sydd wedi bod ar dô Prifysgol Aberystwyth am yr awr ddiwethaf. Mae'r 21 aelod yma yn ogystal a 3 aelod pellach sydd yno'n cefnogi criw Bangor, yn cymeryd rhan mewn protest yn galw am Goleg Aml-safle Cymraeg.
Bydd gan Gyngor Sir Caerfyrddin gynrychiolydd anarferol i wynebu pentrefwyr ac ymgyrchwyr mewn Protest dros Ysgol Mynyddcerrig y penwythnos hwn. Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno "Injan Ffordd" - neu Roliwr - fel cynrychiolydd y Cyngor Sir i'r cyfarfod i symboleiddio awydd y cyngor i orfodi'i strategaeth amhoblogaidd o gau ysgolion ar bobl y sir gan sathru ar unrhyw wrthwynebiad.
Er bod rhai misoedd tan yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe, mae bwrlwm digwyddiadau adloniant yr wythnos eisoes wedi dechrau wrth i Gymdeithas yr Iaith gyhoeddi lleoliadau eu gigs.Fel arfer, mewn cyd-weithrediad â phobl leol, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal wythnos llawn o gigs yn ystod yr Eisteddfod eleni, a hynny yn nwy o ganolfannau gorau yr ardal.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb yn chwyrn i ddatganiad sydyn Cyngor Sir Gaerfyrddin i ddechrau'r broses ymgynghori yn syth ynglyn a dyfodol ysgolion Mynyddcerrig a New Inn. Nid yw ysgol New Inn hyd yn oed ar restr y Cyngor o 40 ysgol dan fygythiad, a doedd dim bwriad i gychwyn y broses ym Mynyddcerrig am flwyddyn arall.
Bu dros 20 o ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith yn protestio tu fewn i siop Blacks ym Metws-y-Coed heddiw, wedi i aelod o staff yno geryddu Dilwyn Llwyd o Gaernarfon, am siarad Cymraeg. Yn dilyn y brotest, fe ddatganodd yr ymgyrchwyr y bydd mwy o brotestiadau, os na fydd rheolwyr y siop gadwyn yn barod i gynnal cyfarfod i drafod ei polisi iaith.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynnu fod Gweinidog Addysg y Cynulliad, Jane Davidson, yn cyfarfod â dirprwyaeth gan y Gymdeithas, Rhieni a Llywodraethwyr sy'n pryderi am eu hysgolion pentrefol yn Sir Gaerfyrddin i drafod methiant canllawiau y Cynulliad Cenedlaethol i amddiffyn yr ysgolion.
Wrth i Gyngor Caerdydd gyhoeddi eu strategaeth ar gyfer ad-drefnu ysgolion yn y brifddinas heddiw, mae Cymdeithas yr Iaith wedi sylwi ar un elfen o'r cyhoeddiad sy'n sicr o achosi embaras i Gyngor Sir Caerfyrddin.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi beirniadu'n hallt Ysgrifennydd Cyffredinol yr FAW, David Collins a Chyngor yr FAW oherwydd eu polisi gwrth-Gymraeg, Saesneg yn unig, enghraifft arall o'r angen am Ddeddf Iaith Newydd.Atebodd John Pritchard, Ysgrifenydd Cynghrair Caernarfon a'r Cylch, lythyr yn ddiweddar oddiwrth yr FAW, yn Gymraeg, ac er syndod a siom iddo dderbyniodd yr ateb canlynol:"I can infom you that the Football Ass
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi derbyn cwyn yn ymwneud ag agwedd negyddol siop Blacks ym Metws-y-Coed tuag at yr iaith Gymraeg. Ar ddydd Gwener 24/03/06 fe aeth Dilwyn Llwyd o Gaernarfon a'i bartner i'r siop gyda ymholiad. Cafodd Mr Llwyd ymateb hiliol ac amharchus gan yr aelod o staff.