Archif Newyddion

16/11/2005 - 18:34
Wynebodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg - Steffan Cravos - achos Llys yn Hwlffordd heddiw, wedi ei gyhuddo o niwed corfforol, yn dilyn protest Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn stiwdio Radio Carmarthenshire dros flwyddyn yn ôl. Mae Steffan Cravos yn gwadu'r cyhuddiad.
15/11/2005 - 11:28
Am 7.30 o’r gloch bore heddiw, dydd Mawrth y 15fed o Dachwedd mae dwy aelod arall o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi eu harestio am beintio slogannau ar waliaub adeilad llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays. Dyma’r chweched weithred mewn cyfres o weithredoedd uniongyrchol i dynnu’r sylw at yr angen am Ddeddf Iaith Newydd.
11/11/2005 - 11:43
Am 8.30 o'r gloch bore dydd Gwener, yr 11eg o Dachwedd arestiwyd aelod arall o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, Gwyn Sion Ifan o'r Bala. Dyma'r bumed weithred mewn cyfres o weithredoedd uniongyrchol sy'n targedu Swyddfa'r Llywodraeth ym Mharc Cathays i dynnu'r sylw at yr angen am Ddeddf Iaith Newydd.
07/11/2005 - 14:12
Ar y diwrnod y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn trafod cynnig gan y Democratiaid Rhyddfrydol ar ddyfodol ysgolion bychain (Dydd Mawrth 8/11/05), bydd Cymdeithas yr Iaith ac ymgyrchwyr dros ysgolion pentrefol yn cynnal 2 Wylnos.
03/11/2005 - 11:41
Mae aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn wynebu achos llys am iddi wrthod llofnodi ffurflen uniaith Saesneg. Dydd Llun diwethaf cafodd Mair Stuart o'r Barri ei harestio am beintio slogan yn galw am Ddeddf Iaith ar wal adeilad llywodraeth y Cynulliad yng Nghaerdydd. Bwriad yr heddlu i ddechrau oedd rhoi rhybudd swyddogol iddi a'i rhyddhau.
02/11/2005 - 20:00
Bu cynrychiolwr o gymunedau o wahanol rannau o Gymru yn ymweld â’r Cynulliad Cenedlaethol heddiw i fynnu bod y Llywodraeth yn gweithredu ar frys er mwyn sicrhau eu dyfodol.
31/10/2005 - 11:13
Heddiw, Mair Stuart oedd yr unfed aelod ar ddeg mewn cyfres o weithredwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i baentio sloganau ar wal adeilad llywodraeth y Cynulliad yn galw am Ddeddf Iaith newydd. Targedwyd adeilad llywodraeth y Cynulliad bron yn wythnosol ers diwedd Medi.
29/10/2005 - 18:00
Daeth dros 200 o gefnogwyr i Rali ‘Dyfodol i’n Cymunedau’ Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y Maes yng Nghaernarfon heddiw. Yn ystod y Rali fe bwysleisiodd Huw Lewis (Cadeirydd y Grwp Deddf Eiddo) na fydd yr un gymuned naturiol Gymraeg ar ôl erbyn y flwyddyn 2020, os bydd y tueddiadau presenol yn parhau.
29/10/2005 - 09:00
Yn gynharach yn yr wythnos, cyhoeddodd y Western Mail erthygl gan Alun Pugh (Gweinidog Diwylliant a'r Iaith Gymraeg) a oedd yn ymosod ar aelodau Cymdeithas yr Iaith, a'u cyhuddo o wisgo 'blinkers'. Heddiw, cyhoeddodd y Western Mail ymatebiad Steffan Cravos - Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
28/10/2005 - 15:04
Dros nos bu aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg allan yn gweithredu dros Ddeddf Iaith newydd yn Aberystwyth drwy ludio sticeri 'Ble Mae'r Gymraeg' a Deddf Iaith Newydd ar siopau a busnesau yn y dre.