Mae nifer cyfyngedig o docynau wythnos ar gyfer Gigs Steddfod Genedlaethol Eryri Cymdeithas yr Iaith rwan ar werth o wefan y Gymdeithas - www.cymdeithas.com/steddfod
Dydd Mercher yma (Gorffennaf 6), bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal lobi dros Ddeddf Eiddo yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mewn cyfarfod ffurfiol a drefnir yn un o ystafelloedd pwyllgor y Cynulliad, bydd y mudiad yn ceisio hybu trafodaeth ar gynnwys ei dogfen Deddf Eiddo – dogfen bolisi sy’n ceisio cynnig atebion i’r problemau tai difrifol sydd yn tanseilio dyfodol cymunedau led led Cymru.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cysylltu gyda Mark James, Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin, wedi derbyn cwynion gan brifathrawon fod Vernon Morgan, y Cyfarwyddwr Addysg newydd, wedi trin y Gymraeg gyda dirmyg mewn cynhadledd a gynhaliwyd ddoe yng Ngholeg y Drindod ar gyfer prifathrawon i esbonio’r strategaeth a allai arwain at gau degau o ysgolion pentrefol Cymraeg.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ysgrifennu at holl aelodau’r Cynulliad Cenedlaethol gan ofyn iddynt sicrhau mai Deddf Iaith Newydd gynhwysfawr fydd y darn cyntaf o ddeddfwriaeth y bydd y Cynulliad yn ei lunio o dan y pwerau newydd a amlinellir yn y Papur Gwyn Trefn Llywodraethu Gwell i Gymru.
Ar y diwrnod y cynhelir cyfarfodydd ymgynghori a allent benderfynu dyfodol Ysgol Gymraeg Garnswllt, y mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar gynghorwyr Sir Abertawe i roi ystyriaeth i gynllun cadarnhaol a allai gadw a datblygu’r ysgol.
Dywedodd Cyfarwyddwr Addysg Sir Gaerfyrddin, Vernon Morgan wrth ddirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith mewn cyfarfod yn Neuadd y Sir ddoe, Llun 13eg, y bydd 'Papur Esboniadol' yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd Awst yn gosod allan rhesymau'r Cyngor dros eu Strategaeth Addysg ddadleuol. Bydd croeso i sylwadau'r cyhoedd mewn ymateb i'r papur hwn.
Fe ddaeth 200 o bobl i Rali a gynhaliwyd heddiw ar lan Llyn Celyn ger y Bala. Rhybuddiodd Siaradwyr yn ystod y Rali mai dyma yw ein cyfle ymarferol olaf i gynnal cymunedau Cymraeg hyfyw. Nodwyd os bydd y tueddiadau presennol yn parhau, ni fydd yr un gymuned naturiol Gymraeg ar ôl erbyn y flwyddyn 2020.
Am 3 o’r gloch prynhawn Dydd Iau, Mehefin 2il bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal Fforwm Drafod ar Ddyfodol Darlledu Cymraeg yn yr Eglwys Norwyaidd, Bae Caerdydd.