Daeth croesdoriad o fudiadau a sefydliadau Cymreig i’r Fforwm Genedlaethol ar Ddeddf Iaith a drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ddydd Sadwrn yn Aberystwyth.
Heddiw mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi beirniadu aelodau o Bwyllgor Diwylliant y Cynulliad Cenedlaethol am nad oes dim un ohonynt wedi cytuno i dderbyn gwahoddiad i fynychu’r Fforwm Genedlaethol ar Ddeddf Iaith Newydd a gynhelir yn Aberystwyth y dydd Sadwrn hwn.
Dydd Sadwrn yma (Mawrth 12, 2005), bydd Cymdeithas yr iaith Gymraeg yn cynnal Fforwm Genedlaethol i drafod yr angen am Ddeddf Iaith Newydd. Cynhelir y fforwm yn yr Hen Goleg yn Aberystwyth. Ymhlith y cyfarnwyr bydd Hywel Williams – aelod Seneddol Caernarfon – a fydd yn amlinellu cynnwys y mesur iaith y mae’n bwriadu ei gyflwyno i senedd San Steffan.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar Gyngor Sir Caerfyrddin i ddilyn esiampl Cyngor Sir Ddinbych, sydd wedi rhoi heibio am y tro eu cynlluniau i gau llawer o ysgolion pentrefol Cymraeg, ac i ymgynghori yn hytrach gyda'r cymunedau lleol.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi danfon e-bost at bob aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Dinbych o flaen eu cyfarfod Ddydd Mawrth pan fyddant yn ystyried y bosibiliad o gau hyd 11 o ysgolion pentre - y mwyafrif ohonynt yn rhai Cymraeg eu cyfrwng.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg heddiw wedi datgan ei chefnogaeth i Mrs Kathleen Parry a gollodd ei swydd yn Woolworth Porthmadog dros ffrae yn ymwneud â’r Gymraeg.
Neithiwr, yn nhref Rhydaman, dechreuodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar gyfnod arall o bwyso gweithredol cyson, er mwyn tynnu sylw at yr angen am Ddeddf Iaith Newydd.
Yn dilyn rhaglen Y Byd ar Bedwar heno ar S4C mae Cymdeithas yr Iaith wedi cwyno'n swyddogol gan fod Ofcom wedi penderfynu codi'r garden felen oddi ar Radio Carmarthenshire ym mis Rhagfyr (Pwyswch yma i weld copi o'r Llythr - pdf).
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn croesawu penderfyniad Cyngor Sir Gâr i benodi Cymro Cymraeg (Vernon Morgan) i'r swydd o Gyfarwyddwr Addysg. Gobeithio y bydd yn sylweddoli pwysigrwydd gweinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg, a bydd yn sylweddoli pwysigrwydd ysgolion bychan pentrefol i'w cymunedau.
Fe dderbyniodd chwech aelod o Gymdeithas yr iaith Gymraeg rybudd gan yr heddlu, yn ystod y dydd heddiw, am achosi difrod troseddol yn ystod protest yn stiwdio Radio Carmarthenshire nôl ym mis Gorffenaf.