Bore heddiw (Llun 14/05/07) bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cyhoeddi cynllun i ymosod ar ddwy ysgol bentrefol Gymraeg arall – sef Llanarthne a Llansawel.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw heddiw ar Blaid Cymru ac ar y Rhyddfrdwyr Democrataidd i sicrhau na chaiff Llafur Newydd fynd yn ei blaen i anwybyddu'r Gymru Gymraeg yn dilyn ei chwalfa yn yr Etholiad.
Yn ystod y dyddiau olaf cyn yr Etholiad, mae Cymdeithas yr Iaith wedi cysylltu a phob arweinydd plaid yn gofyn am ateb syml "IE" neu "NA" i gwestiwn allweddol i ddyfodol ein hysgolion pentrefol Cymraeg.
Danfownyd y llythr canlynol at Iona Jones, Prif Weithredydd S4C heddiw:Annwyl Iona Jones,Hoffwn fynegi fy nicter gyda S4C ar ôl deall fod Bwrdd Cyfarwyddwyr S4C yn cynnal ei gyfarfodydd drwy gyfrwng y Saesneg.Ni allaf yn fy myw ddeall sut y bu i'r sefyllfa hon godi. Bu brwydr hir a chwerw i sicrhau sianel teledu Cymraeg yng Nghymru.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi hysbysu pobl Pont-Tyweli fod y cais am 50 o dai ym Mhont-Tyweli, gan Eatonfield group, wedi ei ail-gyflwyno i'r Cyngor. Cyflwynwyd y cais gwreiddiol ym mis Rhagfyr 2006 ond fe dynnwyd y cais yn ol ym mis Ionawr 2007.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cysylltu gydag athrawon a Ysgol Gynradd bentrefol Mynyddcerrig heddiw i ddatgan y bydd yr ysgol yn cau am y tro olaf ar ddiwedd tymor yr Haf eleni.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi anfon enwau 59 o gwmniau preifat ddylai fabwysiadu polisi dwyieithog cyflawn at Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Mae hyn yn dilyn penodi Ifan Evans fel swyddog cyflogedig ar y Bwrdd Iaith gyda chyfrifoldeb arbennig dros y sector breifat.
Yn eu Cyfarfod Cyffredinol yng Nghanolfan Morlan, Aberystwyth ddoe (dydd Sadwrn Mawrth 10) cafodd Hywel Griffiths ei ethol fel Cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i arwain y mudiad am y flwyddyn 2007 – 2008. Mae Hywel, sy'n 23 mlwydd oed, yn fyfyriwr ymchwil ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth.