Anfonwyd Gwenno Teifi i garchar Eastwood Park, swydd Gaerloyw am 5 diwrnod am wrthod talu dirwy o £120 am beintio slgan yn galw am Ddeddf Iaith ar ffenest siop esgidiau Brantano yn Aberystwyth yn ôl ym mis Hydref 2006.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi gwrthod canlyniadau arolwg gan y BBC sy'n awgrymu fod mwyafrif yn gwrthwynebu Deddf Iaith a fyddai'n ei gwneud hi'n ofynnol i gorfforaethau wneud defnydd llawn o'r Gymraeg. Roedd gwrthwynebiad 63% o'r rhai a holwyd yn ganlyniad i benderfyniad y BBC i ddefnyddio y gair emotif "gorfodi".
Aeth tocynnau ar gyfer Gigs Tafod Steddfod 2007 Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar werth heddiw. Mae’r tocynnau ar gael o flaen llaw drwy gysylltu a Swyddfa’r Gymdeithas yn Aberystwyth (01970 624501, dafydd@cymdeithas.org) neu drwy alw heibio i’r Bar Smwddi ar Stryd Wrecsam yng nghanol tref Yr Wyddgrug.
Bydd Swyddog Maes Dyfed Cymdeithas yr Iaith, Angharad Clwyd, yn dweud wrth gyfarfod cyhoeddus a drefnir gan gymuned leol Waungilwen heno fod perygl i ni golli ein cymunedau Cymraeg fesul ychydig.
Dyma gopi o lythr a ddanfonwyd at yr holl Aelodau Cynulliad cyn y drafodaeth ar y Gymraeg heddiw 27/06/07.Annwyl Aelod Cynulliad,Neges brys gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ynglyn a?r drafodaeth yn siambr y Cynulliad, Dydd Iau, Mehefin 26ain 2007 ar wneud y Gymraeg yn iaith swyddogol.Er bod y tirlun gwleidyddol yn ansicr ar hyn o bryd rydym yn croesawu bod y drafodaeth bwysig yma ar statws yr
Ar ôl sefyll tu allan i Senedd y Cynulliad am dair awr, daeth protest Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros Ddeddf Iaith newydd i ben am un o'r gloch heddiw. Bu'r protestwyr yn arddangos posteri a baner 'Deddf Iaith WAN - Dim Diolch' a dosbarthwyd taflenni.
Cafwyd ymateb da i'r protestiadau gynhaliwyd yn erbyn cwmni Thomas Cook heddiw. Trefnwyd y protestiadau gan Gymdeithas yr Iaith ar ôl clywed fod y cwmni yn gwahardd y staff rhag siarad Cymraeg.
Rhwng 1 a 2 o'r gloch heddi (dydd Gwener Mehefin 15) fe fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal protest y tu allan i siop Thomas Cook ym Mangor oherwydd polisi'r cwmni hwnnw o wahardd staff rhag defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle. Ar yr un pryd fe fydd protestiadau bach eraill yn cael eu cynnal tu allan i siop y cwmni yn Heol y Frenhines, Caerdydd ac yng Nghaerfyrddin.