Bu dros ugain o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn protestio dros Ddeddf Iaith ar strydoedd Caernarfon dydd Sadwrn. Dechreuodd y brotest am 12 o’r gloch ar Stryd Llyn ac fe orchuddiwyd nifer o siopau cadwyn y dre gyda sticeri yn galw am Ddeddf Iaith a’r neges ‘Ble Mae’r Gymraeg?'.
Mewn protest ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw (Dydd Gwener 04/06/04), bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn datgan na ddylai y cwango addysg ELWA ymyrryd gyda'n hysgolion uwchradd trwy eu hamddifadu o'r chweched dosbarth. Bydd y brotest yma yn cychwyn wrth uned Cymdeithas yr Iaith am 1 o'r gloch.