Mae Undebau Llafur ac ymgyrchwyr iaith yn galw ar benaethiaid y BBC ac S4C i dynnu allan o drafodaethau gydag Adran Diwylliant y DG am ddyfodol y darlledwr Cymraeg.Ofna'r grwpiau pwyso fod trafodaethau tu ôl i'r llenni yn digwydd cyn sgrwitneiddio'r Mesur Cyrff Cyhoeddus - a fyddai'n caniatáu cwtogi dros 40% o gyllideb y sianel, newidiadau yn y drefn lywodraethol a'i diddymu'n llwyr - yn San Steffan.Mewn datganiad dywed undeb llafur BECTU: "Mae trafodaethau rhwng y BBC a S4C yn amhriodol cyn penderfyniadau a thrafodaethau yn San Steffan.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhoeddi bod 100 person eisoes wedi ymrwymo i wrthod talu eu trwydded teledu mewn protest yn erbyn y bygythiadau i S4C.Lansiodd y Gymdeithas ei hymgyrch mis diwethaf, ac, yn ôl y mudiad, o fewn pedwar diwrnod roedd y cant cyntaf wedi ymrwymo.
Mae protestwyr iaith wedi targedu swyddfa etholaeth yr Ysgrifennydd Diwylliant Jeremy Hunt heddiw (Dydd Mercher, Rhagfyr 15) mewn protest yn erbyn y toriadau i S4C a'r cynlluniau i uno'r sianel a'r BBC. Gosododd 3 ymgyrchydd bosteri lan ar swyddfa Jeremy Hunt yn Hindhead, Surrey.
Cynhelir rali Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yng Nghaernarfon heddiw (Dydd Sadwrn, Rhagfyr 4ydd), yn erbyn toriadau arfaethedig S4C, a'r toriadau yn gyffredinol, fydd yn ôl y Gymdeithas yn niweidiol iawn i ddyfodol cymunedau Cymraeg.Fe fydd siaradwyr megis AS Arfon Hywel Williams, Silyn Roberts o'r Undeb Unsain, David Donovan o'r undeb BECTU, Hywel Roberts undeb y PCS, Daf
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi heddiw fod Llywydd Plaid Cymru, Jill Evans wedi cadarnhau y bydd yn ymuno ag ymgyrch y Gymdeithas i wrthod talu am ei thrwydded deledu oherwydd y bygythiad diweddar i ddyfodol y sianel Gymraeg.Yn ogystal, datganodd y Gymdeithas eu bod nhw'n lansio yn swyddogol eu hymgyrch i beidio talu'r drwydded heddiw gan fod y Llywodraeth ddim wedi dangos awydd i newid
Mae ymgyrchwyr Iaith wedi ymateb yn ffyrnig i benderfyniad Ysgrifennydd Ddiwylliant y DG, Jeremy Hunt, i wrthod cynnal adolygiad o S4C.Ychydig wythnosau yn ôl ysgrifennodd arweinydd pob plaid yng Nghymru at David Cameron yn gofyn am "archwiliad cynhwysfawr" o'r sianel.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu'n llym yr Aelod Seneddol Toriaidd Simon Hart, am ddweud celwydd ynghylch maint y toriadau i gyllideb S4C mewn cymhariaeth a llefydd eraill o fewn y DCMS. Mewn ebost at aelod o'r Gymdeithas dywed Simon Hart:"...
Fe wrthododd pennaeth y BBC, Mark Thompson, roi sicrwydd o gyllid gan y BBC i S4C wedi 2015 pan gafodd ei holi gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yng Nghaerdydd heddiw.Fe holwyd Mark Thompson, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, gan aelodau o'r Gymdeithas wrth gyrraedd cinio a drefnwyd gan y BBC ar gyfer gwleidyddion a phwysigion eraill ym mwyty drudfawr y Woods Brasserie,