Mae nifer o fudiadau wedi gwneud apêl munud olaf at ASau i bleidleisio yn erbyn cynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer S4C yfory (Dydd Iau, Medi 15).Mae tri Aelod Seneddol, y Rhyddfrydwr Mark Williams, Aelod Llafur Susan Elan Jones a Hywel Williams o Blaid Cymru, wedi cyflwyno gwelliant i'r Mesur Cyrff Cyhoeddus mewn ymdrech i dynnu S4C allan o'r Mesur.
Gall fod dim allbwn Cymraeg ar Radio Ceredigion yn fuan ar ôl i'r rheoleiddiwr darlledu OFCOM ganiatáu i'r tendr am drwydded fynd allan heb unrhyw amodau iaith i'r gwasanaeth.Mae'r penderfyniad yn dilyn ymgyrch gref yn lleol fis Gorffennaf a lwyddodd i wrthod cais perchnogion Radio Ceredigion - Town and Country Broadcasting - i gwtogi ar allbwn Cymraeg presennol yr orsaf.Ym mis Mawrth 2010, gofynnodd Bwrdd yr Iaith Gy
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi talu teyrnged i'r degau ar filoedd o bobl sydd wedi gorfodi i Lywodraeth San Steffan gynnig cyfaddawd ar ddyfodol S4C heddiw (Dydd Mawrth Gorffennaf 12).Fe fydd Gweinidog Llywodraeth San Steffan yn datgan mewn dadl ar ail ddarlleniad y Mesur Cyrff Cyhoeddus heddiw y bydd yn cyflwyno gwelliant ynghylch ariannu'r sianel.Fe ddywedodd y Gymdeithas y byddant yn parhau â'u hymgyrch, gan annog un
Mae aelodau o Gymdeithas yr Iaith wedi peintio'r slogan ACHUB S4C ar furiau adeilad y BBC yn White City Llundain i ddangos eu pryder am sefyllfa S4C.
Mae dau ymgyrchydd iaith wedi eu dedfrydu heddiw yn yr achos llys cyntaf yn ymwneud ag S4C ers bron i ddeng mlynedd ar hugain. Daeth torf o dros gant o bobl draw i Lys Ynadon Caerdydd i ddatgan eu cefnogaeth. Cafodd Jamie Bevan orchymyn i dalu iawndal o £1,020, costau o £120 a gorchymyn 'curfew' am 28 niwrnod.