Daeth dros 2,000 i bobl i Rali gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yng Nghaerdydd heddiw, yn erbyn y toriadau arfaethedig i S4C a'r cynlluniau i'r BBC cymryd y sianel drosodd.
Ymysg y siaradwyr yr oedd Arweinydd Plaid Cymru Ieuan Wyn Jones a'r Aelod Seneddol
Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn trafod dyfodol S4C mewn cyfarfod cyhoeddus yn Aberystwyth heddiw (2pm, Dydd Sadwrn, 30ain Hydref).Mae'r Llywodraeth yn bwriadu gwneud toriad o 94% i grant y sianel, a throsglwyddo'r cyfrifoldeb ariannu'r darlledwr i'r BBC. Bydd Alun Davies AC Aelod Cynulliad dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn ymuno i gyfrannu at y drafodaeth.
Bydd Cymdeithas yr Iaith yn trafod cynnig brys yn galw ar bobl i wrthod talu eu trwydded teledu o fis Rhagfyr dros gynlluniau'r llywodraeth am S4C a fydd, yn ôl ymgyrchwyr, yn 'ddechrau'r diwedd i ddarlledu Cymraeg'.Mae'r cynnig, a drafodir yng Nghyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Aberystwyth ddydd Sadwrn nesaf (30ain Hydref), yn galw ar bobl i wrthod talu eu trwyddedi teledu o'r
Mae ymgyrchwyr iaith wedi croesawu gweithredoedd y Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones i ddiogelu darlledu Cymraeg.Fe ddywedodd Rhys Llwyd, Is-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae Alun Ffred Jones yn haeddu canmoliaeth am sefyll yn erbyn y fargen frwnt a wnaed gan y BBC yn Llundain a Llywodraeth San Steffan.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i'r newyddion bod Llywodraeth y DU yn bwriadu newid y gyfraith er mwyn cwtogi ar gyllideb S4C.Bydd y Gymdeithas yn cynnal rali "Na i doriadau, Ie i S4C newydd" ar Ddydd Sadwrn 6ed Tachwedd am 11yb, Parc Cathays, Caerdydd.Fe ddywedodd Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae ein rhaglenni Cymraeg a'n gwasanaeth darlledu cyhoeddus yn y fantol.
Roedd SuperTed yn arwain protest yng Nghaerdydd heddiw yn erbyn cynlluniau'r Llywodraeth i dorri cyllideb S4C.Mae'r Llywodraeth clymblaid Ceidwadwyr- Democratiaid Rhyddfrydol yn bwriadu torri cyllideb yr unig sianel teledu Cymraeg a all olygu lleihad yn y gyllideb o rhwng 25% a 40% - er nad oes toriadau tebyg wedi'u bwriadu i ddarlledwyr eraill.Fe ddywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr y
Mae aelodau o Gymdeithas yr Iaith yng Ngheredigion wedi datgan eu siom yn dilyn cyfarfod a'r Aelod Seneddol, Mark Williams, ar ddydd Mawrth yr 28ain o Fedi, gan iddynt fethu a derbyn addewid diamwys ganddo y byddai'n pleidleisio yn erbyn unrhyw doriadau i gyllideb S4C.
Mae ymgyrchwyr iaith wedi bygwth dechrau ymgyrch 'gweithredu'n uniongyrchol' yn erbyn y Llywodraeth Brydeinig dros doriadau arfaethedig i S4C.Mewn llythyr agored at Jeremy Hunt, Gweinidog Diwylliant Llywodraeth y DU, mae Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Menna Machreth yn dweud y bydd y mudiad yn dilyn tactegau tebyg i'r rhai di-drais a ddefnyddiwyd yn yr ymgyrch i sefydlu'r sianel.