Mae ymgyrchwyr iaith wedi meddiannu stiwdios y BBC yn Aberystwyth ac atal darllediad Radio Cymru heddiw (Dydd Mercher, 16eg Mawrth) fel rhan o'r ymgyrch i atal cynlluniau y BBC a'r Llywodraeth a fydd yn peryglu dyfodol y sianel.Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y BBC i gamu i ffwrdd o'r ddel bresennol gyda'r llywodraeth ac yn hytrach aros am adolygiad cynhwysfawr o S4
Bu aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn cwrdd gyda Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Mark Thompson, yng Nghaerdydd heddiw i drafod dyfodol S4C.Mae Cymdeithas yr Iaith yn poeni am annibyniaeth a chyllid S4C ar ôl i Lywodraeth San Steffan benderfynu newid y ffordd y mae'r sianel yn cael ei ariannu heb ymgynghori gyda unrhyw un yng Nghymru.Yn dilyn y cyfarfod dywedodd Bethan
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu sylwadau'r Arglwydd Geoffrey Howe, Diprwy Prif Weinidog, Canghellor ac Ysgrifennydd Tramor Prydain o dan Thatcher, yn erbyn cynlluniau'r Llywodraeth am doriadau o dros 40% i S4C ac i gael ei thraflyncu gan y BBC.Roedd yr Arglwydd Howe yn siarad heddiw yn ystod y ddadl ar y Mesur Cyrff Cyhoeddus a fyddai'n caniatau y cynlluniau i f
Rhoddwyd mechnïaeth i ddau aelod o Gymdeithas yr Iaith heddiw gan lys ynadon Caerdydd yn dilyn eu hymddangosiad ar gyhuddiad o Fyrgleriaeth - sef torri i mewn i swyddfa'r AS Torïaidd, sy'n cael ei rannu gan yr AC lleol, gyda'r bwriad o beintio slogan ar y wal yn galw am sicrwydd i ddyfodol S4C.
Fe fydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn cynnal gêm bêl-droed wedi'u gwisgo fel David Cameron a phennaeth y BBC Mark Thompson er mwyn gwrthwynebu'r toriadau i S4C, cyn gorymdeithio i Gynadleddau y ddwy blaid wleidyddol yng Nghaerdydd heddiw (10:15am, Dydd Sadwrn y 5ed o Fawrth).Fe fydd y mudiad iaith yn gorymdeithio gyda undebau a grwpiau protest eraill yn erbyn toriadau'r L
Mae aelodau lleol o fudiad iaith wedi mynd ati i godi posteri ar swyddfa David Jones yn etholaeth Gorllewin Clwyd heno (Nos Sul 27/02/11) fel rhan o ymgyrch dros gadw annibyniaeth S4C.Mae'r posteri sydd yn datgan "David Jones Gwrandewch ar lais y pobl Cymru", yn rhan o ymgyrch genedlaethol gan y gr?p ymgyrch sydd yn honni fod y Llywodraeth a'r BBC yn cydweithio ar gynll
Mae tri aelod o Gymdeithas yr Iaith a garcharwyd ddeugain mlynedd yn ôl am 12 mis am ddringo mast teledu a thorri i mewn i stiwdios Granada ym Manceinion wedi dringo mast teledu Carmel, ger Cross Hands, am 7.30am heddiw a chodi baner y Tafod.
Mae nifer o bobl ifanc Sir Gaerfyrddin wedi meddiannu adeilad y BBC yng Nghaerfyrddin heddiw (Dydd Mercher, 23/2/11) fel rhan o'r ymgyrch i atal cytundeb rhwng y BBC a S4C, gan ddweud y byddai'n dinsitrio annibyniaeth y sianel.Dros y penwythnos, fe ddaeth tua 300 o bobl leol i brotest tu fas i swyddfeydd y BBC yng Nghaerfyrddin i ddangos eu gwrthwynebiad i'r c