Archif Newyddion

07/05/2020 - 16:26
Mae datganoli darlledu yn un o brif ymgyrchoedd Grŵp Dyfodol Digidol y Gymdeithas, ac mae'r sefyllfa bresennol wedi amlygu – yn fwy nag erioed – bwysigrwydd yr ymgyrch hwn. Mae'n hanfodol fod gennym y grym yma yng Nghymru i benderfynu dros ddyfodol ein sianel Gymraeg a'n gorsafoedd radio lleol. Credwn y dylid datganoli cyfrifoldeb dros ddarlledu yn ei gyfanrwydd i Senedd Cymru, gan gynnwys y grym o reoleiddio’r holl sbectrwm darlledu.
03/04/2020 - 09:58
Yn ystod yr argyfwng Coronafeirws, mae staff y Gymdeithas yn gweithio o adref. Mae gwaith y Gymdeithas yn mynd yn ei flaen wrth gwrs ac mae croeso i chi gysylltu dros ebost neu gwblhau'r ffurflen ar waelod y dudalen hon. Siôn Trewyn (Swyddog Cyfathrebu a Chyswllt Gwleidyddol): cyfathrebu@cymdeithas.cymru
24/03/2020 - 14:56
Nodir yma gwrthwynebiad swyddogol Cymdeithas yr Iaith i hysbysiad statudol Cyngor Caerdydd o'r bwriad i sefydlu darpariaeth ysgol gynradd i wasanaethu cyfnodau cynnar datblygiad Plasdŵr.
20/03/2020 - 16:52
Y mae Cymdeithas yr Iaith yn gynyddol bryderus am iechyd un o Gyn-gadeiryddion y mudiad, Ffred Ffransis, sy’n gaeth ym Mheriw gyda'i wraig Meinir. 
18/03/2020 - 11:02
Mae Cymdeithas yr Iaith yn condemnio'n hallt benderfyniad Cyngor Sir Penfro i werthu fferm hanesyddol Trecadwgan ger Solfach. Bellach, eiddo cwpwl o Gaerloyw yw'r fferm.
17/03/2020 - 17:27
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Gabinet Cyngor Gwynedd (sy'n cwrdd heddiw) i atal y penderfyniad i lansio ymgynghoriad ar addysg ôl-16 yn Arfon. Yn ei le, mae nhw eisiau'r Cyngor i ddechrau paratoi cynlluniau i gyflwyno e-ysgolion ar draws y sir.
13/03/2020 - 16:37
Mae Gweinidogion wedi cyflwyno apêl gyfreithiol yn erbyn dyfarniad Comisiynydd y Gymraeg eu bod wedi torri’r gyfraith drwy beidio â sicrhau bod gwasanaethau Cymraeg ar drenau.
09/03/2020 - 10:33
Mi fydd ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn cael gwersi Cymraeg am ddim drwy SaySomethinginWelsh, diolch i bartneriaeth newydd.  Mae'r bartneriaeth rhwng Addysg Oedolion Cymru-Adult Learning Wales, Cyngor Ffoaduriaid Cymru, Cymdeithas yr Iaith a SaySomethinginWelsh yn golygu y bydd ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy'n ymwneud â'r mudiadau yn cael gwersi’r cwmni yn rhad ac am ddim. 
28/02/2020 - 12:53
Swyddog Cyfathrebu a Chyswllt Gwleidyddol Cyflog: £26,000-£29,000 y flwyddyn Lleoliad: Yn ddelfrydol Caerdydd neu Aberystwyth, ond i’w drafod ar sail sefyllfa’r ymgeisydd llwyddiannus.
26/02/2020 - 14:29
Mae archwilwyr allanol wedi cael ei benodi i ymchwilio i honiadau bod Llywodraeth Cymru wedi llwgrwobrwyo Comisiynydd y Gymraeg i gynnal llai o ymchwiliadau i gwynion, yn ôl gohebiaeth sydd newydd gael ei datgelu. Yn y chwe mis cyntaf ei swydd, ymchwiliodd y Comisiynydd newydd, Aled Roberts, i lai na 40% o'r cwynion a dderbynnir ganddo - bron hanner lefel ei ragflaenydd. Heb ymchwiliad statudol i gŵyn, nid oes modd i'r Comisiynydd ddefnyddio ei bwerau cyfreithiol i sicrhau bod gwasanaethau Cymraeg cyrff yn gwella.