Mae Rhanbarth Caerfyrddin Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y cannoedd
o addysgwyr a gwynodd am Fil y Cwricwlwm i anfon ymateb erbyn 5pm fory
(Dydd Mawrth 29ain Medi) i ymchwiliad Pwyllgor Plant, Pobl Ifainc ac
Addysg y Senedd i'r Bil. Mae holiadur y Pwyllgor
https://www.smartsurvey.co.uk/s/3EO06Q/ yn gofyn yn benodol (3:1) a
Flwyddyn ar ôl i’r Llywodraeth ganiatàu i geiswyr lloches fynychu gwersi Cymraeg yn rhad ac am ddim, mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn y cynllun hwn i hefyd gynnwys ffoaduriaid.
Rhaid i lywodraeth nesaf Cymru fuddsoddi £100m mewn hyfforddiant iaith i athrawon, a phasio Deddf Addysg Gymraeg, yn ôl ymgyrchwyr wrth ymateb i adroddiad Comisiynydd y Gymraeg am hyfforddiant athrawon.
Dylai sefydlu corff newydd i greu cynnwys Cymraeg ar-lein fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth nesaf Cymru er mwyn cynyddu defnydd y Gymraeg, yn ôl ymgyrchwyr.
Mewn papur manwl am eu cynigion i sefydlu ‘Menter Ddigidol Gymraeg’ sydd wedi ei lansio heddiw fel rhan o’r Eisteddfod AmGen, mae Cymdeithas yr Iaith yn dadlau dros sefydlu corff a fyddai â’r “prif nod i gynyddu cyfleoedd i weld, clywed, creu a defnyddio'r Gymraeg ... ar draws llwyfannau ar-lein ac yn ddigidol”.
Please scroll down for English
Dros 400 o addysgwyr yn galw ar Lywodraeth Cymru i ollwng gorfodaeth o Saesneg o Fil y Cwricwlwm
Y llythyr agored: https://drive.google.com/uc?export=download&id=1AsatEq5qDtij0IZ2d1AV91Gz7-oHXcS7
Mae ymhell dros gant o addysgwyr o Sir Gaerfyrddin a Dyffryn Teifi wedi llofnodi llythyr, a drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith, at y Gweinidog Addysg yn galw arni i dynnu allan o Fil y Cwricwlwm unrhyw gyfeiriad at orfodi ysgolion i ddysgu Saesneg i blant o 4 oed. Mae'r 115 o addysgwyr yn cynnwys athrawon, swyddogion addysg a llywodraethwyr presennol ac eraill sydd wedi gwasanaethu dros y 30 mlynedd diwethaf.
Mae ymgyrchwyr iaith wedi ymateb yn chwyrn ar ôl cael deall bod drafft diweddaraf Bil y Cwricwlwm – sydd i’w gyhoeddi’n fuan – yn nodi Saesneg fel rhan orfodol o’r cwricwlwm ac yn peryglu dulliau trochi, er gwaethaf addewidion i’r gwrthwyneb gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AS, y llynedd.
Am y tro cyntaf, daeth mudiadau ymgyrchu iaith o’r gwledydd Celtaidd at ei gilydd er mwyn galw am weithredu cadarn i sicrhau dyfodol ffyniannus i’n cymunedau.