Archif Newyddion

07/11/2019 - 10:06
Mae cyn-Brif Cynghorydd Cyfreithiol y Cynulliad wedi dweud nad oes unrhyw rwystr cyfreithiol i roi enw uniaith Gymraeg ar y sefydliad. Mae'r farn yn dod wedi i Lywodraeth Cymru godi amheuon am gyfreithlondeb gosod yr enw 'Senedd' neu 'Senedd Cymru' yn Gymraeg yn unig. Cynhelir pleidlais derfynol ar ail-enwi'r Cynulliad ddydd Mercher nesaf, 13eg Tachwedd.
05/11/2019 - 11:25
Mae galw am adolygiad allanol ar ôl i Gomisiynydd y Gymraeg gefnu ar addewid i ddirwyo adran gyllid Cyngor Wrecsam wedi i’r awdurdod dorri’r gyfraith drwy beidio darparu dogfennau trethi yn Gymraeg am y bumed flwyddyn ers cael gwybod am fethiannau. 
01/11/2019 - 11:19
Mae mudiad iaith yn dweud nad oes gyda nhw ‘ffydd’ ym mhennaeth Cymwysterau Cymru yn dilyn cyfarfod gyda fe, gan nad yw wedi addo dileu Cymraeg ail iaith, er gwaethaf cyfres o addewidion polisi gan Lywodraeth Cymru.
22/10/2019 - 15:37
Mae ymgyrchwyr wedi gofyn am ymddiheuriad gan y Prif Weinidog Mark Drakeford am ddweud ‘celwedd’ mewn llythyr atyn nhw am ei safbwynt ar enw’r Senedd. 
17/10/2019 - 14:39
Mae cynghorwyr yn Ynys Môn a Gwynedd wedi eu rhybuddio i beidio â chadw at gynllun i adeliadu miloedd o dai ar gyfer gweithwyr i Wylfa-B er bod y prosiect wedi eu canslo, wrth iddyn nhw ystyried diwygio eu Cynllun Datblygu Lleol. 
15/10/2019 - 11:46
Mae angen mynd i’r afael â’r argyfwng yn y farchnad dai sy’n ‘gwagio pentrefi Cymraeg’ - dyna fydd prif neges mudiad iaith mewn cynhadledd yn Aberystwyth heddiw (dydd Sadwrn, 12fed Hydref).
09/10/2019 - 19:26
Mae mudiad iaith wedi cyhuddo’r Prif Weinidog o fod yn anonest am safbwynt Llywodraeth Cymru ar enw’r Senedd, cyn pleidlais ar y mater heddiw.  Ym mis Gorffennaf eleni, holodd dirprwyaeth o’r Gymdeithas y Prif Weinidog am ei farn am enw uniaith i’r Senedd. Yn ôl y mudiad, roedd ei ymateb yn ddiamheuol ei fod yn cefnogi enw uniaith. Fodd bynnag, mewn cyfweliad gyda’r wasg ddydd Llun, dywedodd y Prif Weinidog y byddai’n pleidleisio dros enw dwyieithog.
26/09/2019 - 14:22
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi pryder ynghylch y diffyg sylw a roddir i’r Gymraeg yn strategaeth newydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru, y corff sy’n cynllunio’r gweithlu iechyd yng Nghymru ac sy’n gyfrifol am gomisiynu addysg a hyfforddiant.
25/09/2019 - 16:11
Mae menyw o Geredigion yn mynd i barhau i wrthod talu dirwy a gafodd am ei rhan yn yr ymgyrch i ennill pwerau darlledu i Gymru, er gwaethaf ymweliad gan feilïaid ychydig wythnosau yn ôl.