Archif Newyddion

01/08/2019 - 11:32
Mae mudiad iaith wedi cwyno bod banc Monzo yn torri cytundeb grant werth bron miliwn o bunnoedd gyda Llywodraeth Cymru er mwyn sefydlu swyddfa yng Nghaerdydd drwy beidio â darparu gwasanaethau yn Gymraeg. 
17/07/2019 - 09:49
Mae mudiad iaith wedi ymateb i honiadau sydd wedi eu hadrodd yn y wasg bod siop KFC ym Mangor wedi atal gweithiwr rhag siarad Cymraeg gyda chwsmeriaid. 
08/07/2019 - 10:41
Mae mudiad iaith wedi cyhuddo arweinyddiaeth cyngor Gwynedd o ‘fygwth’ cynghorwyr er mwyn osgoi trafodaeth ar ei gynlluniau i atal asesiadau effaith iaith ar y rhan helaeth o geisiadau cynllunio.
01/07/2019 - 11:05
Mae Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gâr wedi croesawu'n fawr adroddiad a osodir gerbron Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin heddiw ar adfywio cymunedau gwledig y sir. Mewn ymateb, dywed Sioned Elin, Cadeirydd y Gymdeithas yn Sir Gaerfyrddin: "O dderbyn a gweithredu ar argymhellion yr adroddiad ar adfywio cymunedau gwledig y sir, bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn gosod esiampl i Gymru gyfan ac yn cywilyddio Llywodraeth Cymru a'i sbarduno i weithgarwch.
25/06/2019 - 17:25
Mae ymgyrchwyr iaith wedi galw eto am ddiswyddo aelod cabinet Cyngor Wrecsam wrth i'r awdurdod cadarnhau bod cwsmeriaid Cymraeg yn cael gwasanaeth israddol mewn adroddiad newydd.
24/06/2019 - 13:53
Bydd corff newydd i reoleiddio darlledu yng Nghymru yn cael ei lansio, yn lle’r corff Prydeinig presennol, mewn cyfarfod yng ngerddi Hywel Dda yn Hendy-gwyn ar Daf heddiw (dydd Llun, 24ain Mehefin). Mae’r cyhoeddiad am y bwriad i greu corff cysgodol i reoli cyfathrebu yng Nghymru yn dilyn cyfres o benderfyniadau dadleuol gan y rheoleiddiwr presennol, Ofcom, sydd, yn ôl sefydlwyr y corff newydd, yn ‘tanseilio lle Cymru a’r Gymraeg yn y cyfryngau’.
22/06/2019 - 19:53
Bydd ymgyrchwyr yn lansio deiseb yng ngŵyl Tafwyl heddiw (dydd Sadwrn, 22ain Mehefin) yn galw ar i Gyngor Caerdydd wneud yr ysgol gyntaf sy’n rhan o ddatblygiad tai newydd yng ngogledd-orllewin y ddinas yn un cyfrwng Cymraeg yn hytrach na dwyieithog. Ym mis Ebrill eleni, ac yn groes i addewid Arweinydd Cyngor Caerdydd i agor ysgol benodedig Gymraeg fel rhan o’r datblygiad tai enfawr, cytunodd cabinet y cyngor i ymgynghori ar gynnig i agor ffrwd Saesneg o fewn yr ysgol gyntaf.
15/06/2019 - 16:43
Mae Cyngor Gwynedd yn wynebu her gyfreithiol os yw’n bwrw ymlaen gyda newid polisi a fyddai’n atal cynghorwyr rhag comisiynu asesiadau effaith iaith ar y rhan helaeth o geisiadau cynllunio, yn ôl bargyfreithiwr.
12/06/2019 - 07:22
Mae ymgyrchwyr iaith wedi galw am ddiswyddiad aelod o gabinet Cyngor Wrecsam yn sgil diffygion cyson yn ei wasanaethau Cymraeg ac adroddiadau ffeithiol anghywir, cyn i gyfarfod o’r Bwrdd Gweithredol drafod y mater heddiw (dydd Mawrth, 11eg Mehefin).
07/06/2019 - 18:00
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am ymddiheuriad gan gorff sy’n cynrychioli optegwyr ar ôl iddyn nhw ddweud na ddylai eu haelodau cynnig gwasanaeth Cymraeg i’w cleifion.