Archif Newyddion

21/03/2019 - 15:15
Roedd rhieni a phlant wedi ymgynnull y tu allan i swyddfeydd Cyngor Rhondda Cynon Taf heddiw mewn ymgais i atal cau ysgol Gymraeg yn ardal Pontypridd.   Mae’r ymgyrchwyr yn gwrthwynebu cynlluniau Cyngor Rhondda Cynon Taf ar gyfer ad drefnu addysg gynradd yn ardal Pontypridd. Maen nhw’n pryderu na fydd addysg Gymraeg yn opsiwn lleol i lawer o reini i ogledd dref Pontypridd o ganlyniad i gynnig i gau Ysgol Pont Sion Norton.
21/03/2019 - 15:14
Roedd rhieni a phlant wedi ymgynnull y tu allan i swyddfeydd Cyngor Rhondda Cynon Taf heddiw mewn ymgais i atal cau ysgol Gymraeg yn ardal Pontypridd.  
20/03/2019 - 11:16
Mae un o Weinidogion Llywodraeth Cymru o dan y lach am geisio cael gwared ar amod y dylai’r Llyfrgellydd Cenedlaethol newydd fedru’r Gymraeg cyn i’r swydd gael ei hysbysebu ddiwedd y llynedd. Mae 90% o staff y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn siarad Cymraeg ac mae’r corff yn gweithio’n fewnol drwy’r iaith.
08/03/2019 - 11:05
Mae mudiad iaith wedi ymateb i drafodaeth cynghorwyr Gwynedd am y toriadau arfaethedig i ganolfannau trochi iaith y sir. Meddai Mabli Siriol, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:
07/03/2019 - 13:23
Mae ymgyrchwyr iaith wedi ymgynnull y tu allan i swyddfeydd Cyngor Gwynedd heddiw  mewn ymgais i atal toriadau i ganolfannau trochi iaith y sir.   Mae’r canolfannau yn trochi plant sy’n dod o’r tu allan i'r sir yn y Gymraeg fel eu bod yn medru astudio drwy’r Gymraeg yn yr ysgolion. Mae’r cyngor yn cynnig gwneud toriadau o £96,000 i gyllideb y canolfannau o fis Medi 2019 ymlaen.  
05/03/2019 - 13:54
Mae mudiad iaith wedi mynegi pryder nad yw ymgyrch newydd i gyflogi ugain mil yn fwy o ofalwyr yn sôn am yr angen i recriwtio siaradwyr Cymraeg. Dywedodd Gwerfyl Wyn Roberts, Cadeirydd Grŵp Iechyd, Cymdeithas yr Iaith:
28/02/2019 - 20:58
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi trefnu ar y cyd gyda Chlwb Rygbi Castell Newydd Emlyn lansiad ymgyrch newydd i wneud y Gymraeg yn brif iaith gweithgareddau hamdden yn Sir Gâr a Cheredigion.
21/02/2019 - 11:59
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi llongyfarch cynghorwyr Sir Gâr ar eu penderfyniad y dylai eu Prif Weithredwr nesaf fod yn ddwyieithog.    Dywedodd Bethan Williams o Gymdeithas yr Iaith: