Archif Newyddion

24/01/2019 - 18:03
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i gyhoeddiad cynllun addysg ôl-16 heddiw drwy ofyn ble mae’r cyllid y tu ôl i'r cynllun. Mae hefyd yn galw’n benodol am glustnodi £10 miliwn ar gyfer prentisiaethau cyfrwng Cymraeg eleni. 
21/01/2019 - 09:53
Mae galwadau ar i fanciau ddarparu gwasanaethau Cymraeg ar y we, yn dilyn ymateb gan HSBC i gŵyn sy’n dweud bod yr iaith yn ‘estron’.  
18/01/2019 - 10:19
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu cadarnhad Llywodraeth Cymru heddiw y bydd yna un continwwm o ddysgu’r Gymraeg dan y cwricwlwm newydd, ond wedi apelio unwaith eto ar y Llywodraeth i gyhoeddi un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl cyn gynted â phosibl.     Meddai Toni Schiavone o Gymdeithas yr Iaith:  
12/01/2019 - 13:09
Bydd ymgyrchwyr yn cynnal cyfres o bicedi ledled y wlad heddiw (dydd Sadwrn, 12fed Ionawr) yn erbyn y gwasanaeth trên newydd, Trafnidiaeth Cymru, gan fod cyn lleied o wasanaethau ar gael yn Gymraeg.
08/01/2019 - 09:22
Mae mudiad iaith wedi rhybuddio y byddai perygl gwirioneddol o fethu targed y miliwn o siaradwyr petai Llywodraeth Cymru yn dilyn awgrym panel i beidio â gosod targedau i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion Saesneg. 
31/12/2018 - 09:15
Mae ymgyrchwyr iaith wedi galw ar y Prif Weinidog i wneud adduned blwyddyn newydd i ollwng y cynlluniau i wanhau’r ddeddf iaith bresennol, ac i fynd ati yn lle hynny i gyflwyno Deddf Addysg Gymraeg fydd yn sicrhau bod pob person ifanc yn gadael yr ysgol yn rhugl yn y Gymraeg. 
18/12/2018 - 11:15
Swyddog Maes y Gogledd Mewn cyfnod gwleidyddol cyffrous, dyma eich cyfle chi i wneud gwahaniaeth go iawn drwy weithio i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. Cewch roi eich brwdfrydedd a'ch sgiliau trefnu ar waith i alluogi ymgyrchoedd a fydd yn cryfhau'r Gymraeg a chymunedau yng ngogledd Cymru.
17/12/2018 - 11:33
Yn dilyn penderfyniad Pwyllgor Gwaith Cyngor Ynys Môn heddiw i symud ymlaen i gau Ysgol Gymunedol Bodffordd, mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y Gweinidog Addysg Kirsty Williams i ymyrryd er mwyn achub hygrededd ei chôd newydd a gyhoeddwyd gyda'r bwriad o roi gobaith newydd i ysgolion gwledig.  Dywedodd Ffred Ffransis ar ran grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith: