Archif Newyddion

28/09/2021 - 16:51
Er gwaethaf derbyn 211 o wrthwynebiadau a dwy ddeiseb yn gwrthwynebu'r cynnig i gau Ysgol Abersoch ddiwedd eleni, pleidleisiodd Cabinet Cyngor Gwynedd heddiw (28/09/21) dros gau yr ysgol. Wrth ymateb i'r penderfyniad dywedodd Ffred Ffransis, ar ran grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith: "Wrth gau yr ysgol mae Gwynedd yn tanseilio eu polisïau tai ac iaith eu hunain trwy gefnu ar gymuned Abersoch, ac yn anfon arwydd clir at gymunedau eraill sydd dan bwysau nad yw'r Cyngor yn barod i sefyll i fyny drostyn nhw.
27/09/2021 - 11:58
Pleidleisiodd Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin yn unfrydol ddydd Llun y 27ain o Fedi dros ysgrifennu at y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles AS, i bwyntio allan nad oedd DIM UN ysgol fach yng Nghymru wedi derbyn arian gan Gronfa Ysgolion y 21ain ganrif i uwchraddio adeilad, a bod hyn yn groes i bolisi honedig y llywodraeth o rhagdyb o blaid cadw a datblygu ysgolion gwledig.
23/09/2021 - 10:54
O flaen eu cyfarfod Ddydd Mawrth nesaf (28/9), mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar aelodau Cabinet Cyngor Sir Gwynedd i beidio â chefnu ar y gymuned leol yn Abersoch trwy gau ysgol y pentref.  Mewn llythyr at bob aelod o'r Cabinet, dywed Ffred Ffransis ar ran Grŵp Ymgyrch Addysg Cymdeithas yr Iaith mai'r "ysgol yw ei gobaith at y dyfodol fel sefydliad cwbl Gymraeg ac yn seiliedig ar blant, ac yn ddatganiad fod y Gymraeg yn perthyn i bob dinesydd y dyfodol yn Abersoch, beth bynnag fo eu cefndir."
20/09/2021 - 20:05
Mae recordiad y digwyddiad bellach ar gael i'w weld yma Yn fforwm agored "Tynged yr Iaith Sir Gâr: Cyfraniad y Cyfryngau Digidol" ar ddydd Sadwrn y 25ain o Fedi bydd Cymdeithas yr Iaith yn tynnu ynghyd cynghorwyr etholedig a swyddogion y cyngor sir, prif swyddogion canolfan Yr Egin a'r rhai sy'n datblygu cynnwys Cymraeg ar gyfer y we er mwyn trafod sut all y cyfryngau digidol fod o fudd i'n cymunedau.
26/08/2021 - 14:22
Mae gan y Gymdeithas ddau gyfle cyffrous i unigolion angerddol a gweithgar ymuno â’n tîm staff fach ond effeithiol. 
25/08/2021 - 17:52
Mae ymgyrchwyr iaith wedi cyhuddo’r Llywodraeth o “fychanu cymunedau Cymru” yn eu dogfen ymgynghorol newydd ar drethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety hunanddarpar. Mae ymgynghoriad y Llywodraeth, a gyhoeddwyd heddiw (25 Awst), yn “ystyried newidiadau posibl i drethi lleol er mwyn helpu awdurdodau lleol i reoli effaith ail gartrefi a llety hunanddarpar yn eu hardaloedd”. 
16/08/2021 - 18:30
"Mae ein cymunedau Cymraeg mewn peryg oherwydd fod y farchnad dai agored yn atal pobl ifainc rhag cael cartrefi yn eu cymunedau." meddai Osian Jones, oedd yn un o g
22/07/2021 - 10:25
Mae Grwp Ymgyrch Addysg yn datgan ei wrthwynebiad i'r Rhybudd Statudol a gyhoeddwyd gan Gyngor Gwynedd i gau Ysgol Abersoch.
13/07/2021 - 17:09
Mae ymgyrchwyr iaith wedi galw am “Ddeddf Addysg Gymraeg radical” yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru eu bod wedi methu eu targedau addysg allweddol er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr.