Archif Newyddion

29/04/2022 - 17:06
Wythnos cyn yr etholiadau lleol, mae Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gâr wedi cyhoeddi datganiad yn galw ar ymgeiswyr am seddi ar y Cyngor Sir i roi gobaith newydd i gymunedau gwledig Cymraeg trwy roi sicrwydd am ddyfodol eu hysgolion pentre. Rai misoedd yn ôl penderfynodd Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin beidio â chau ysgolion pentrefi Mynydd-y-Garreg a Blaenau, ond yn hytrach i adolygu'r "Cynllun Moderneiddio Addysg", a oedd wedi bygwth dyfodol degau o ysgolion pentrefi'r sir, yn ei gyfanrwydd.
14/03/2022 - 18:10
Wrth i'r Llywodraeth ddatblygu'r cynllun gwaith newydd ar gyfer Mwy na geiriau dywed Cymdeithas yr Iaith ei bod yn ymwrthod â'r bwriad i 'gyflwyno'n raddol lefel "cwrteisi" sylfaenol'.
08/03/2022 - 17:34
Yn rali Ni Isio Byw yng Nghaerdydd heddiw bydd Mabli Siriol, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, yn defnyddio'r cyfle i ddweud bod angen i ni uno yn erbyn ymosodiadau Llywodraeth Prydain ac eraill ar ein hawliau, a chydsefyll fel y mudiad ffeministaidd, y mudiad iaith a phawb arall sydd eisiau creu byd heb drais a gormes. Meddai: Mae Cymdeithas yr Iaith yn fudiad di-drais ers ein sefydlu 60 mlynedd yn ôl, ac rydyn ni’n golygu ‘di-drais’ yn ystyr ehangaf y gair.
01/03/2022 - 12:12
Wedi i'r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, gyhoeddi prosiectau fydd yn gwneud cais am gyllid o’r Grant Cyfalaf Addysg Cyfrwng Cymraeg mae Cymdeithas yr Iaith  wedi gofyn "ble mae'r strategaeth?" Dywedodd Toni Schiavone, Cadeirydd grŵp ddysg Cymdeithas yr Iaith:
28/02/2022 - 15:53
Rydyn ni'n chwilio am ddau gynllun newydd - un ar gyfer crys-T i oedolion ac un ar gyfer crys-T plant Rydyn ni'n edrych am ddelwedd neu gelf weledol all ddangos i'r byd fod Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn hawlio lle i'n hiaith a'n treftadaeth ers trigain mlynedd. Rydym yn edrych am gynlluniau trawiadol a chyfoes, ond sy'n adlewyrchu chwe degawd o ymgyrchu, aberthu a brwydr y chwyldro yng Nghymru. Canllawiau’r gystadleuaeth: Dylech osgoi defnyddio '60' fel nad yw'r crys-t yn dyddio
16/02/2022 - 10:21
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu penderfyniad Cymwysterau Cymru i beidio â chyflwyno un cymhwyster Cymraeg i holl ddisgyblion Cymru, ac wedi cyhuddo’r corff o wneud dim mwy nag ‘ail-frandio’ Cymraeg ail iaith a ‘methu cenhedlaeth arall o blant’. Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi:
11/02/2022 - 10:42
Codwch lais dros ein cymunedau a mynnu cartrefi fforddiadwy i bawb! Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n cynnal dau ymgynghoriad pwysig ar faterion tai sy’n cau ddydd Mawrth Chwefror 22, ac mae angen eich cymorth chi i sicrhau bod llais ein cymunedau a phobl gyffredin yn cael eu clywed.
04/01/2022 - 13:08
Wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Canllawiau newydd ar gategoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg dywedodd Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:  
31/12/2021 - 12:35
Cymdeithas yr Iaith is inviting the people of Wales to 'join the campaign for the language' in our new video. The video outlines the language campaign group’s vision for this Senedd term, a vision encapsulated in their 'More than a Million — Welsh Language Citizenship for All' document.
21/12/2021 - 10:04
Bydd Cymdeithas yr Iaith cynnal rali Nid yw Cymru ar Werth 60 mlynedd ers traddodi darlith ‘Tynged yr Iaith’ gan Saunders Lewis, a sbardunodd sefydlu’r mudiad.