Mae disgwyl i gannoedd o ymgyrchwyr brotestio ar argae Tryweryn ddydd yfory (Dydd Sadwrn, y 10fed o Orffennaf), lle fydden ni'n ffurfio rhes ar hyd yr argae yn symbol o'n hymrwymiad i sefyll yn erbyn grymoedd y farchnad dai a pholisïau’r Llywodraeth sy'n bygwth chwalfa cymunedau Cymru a’r Gymraeg.
Bydd ymgyrchwyr iaith yn gorymdeithio am dridiau i alw am hawliau i bobl allu byw yn eu cymunedau lleol.
Yr wythnos nesaf, bydd aelodau o Ranbarth Ceredigion Cymdeithas yr Iaith yn dechrau taith gerdded o dros 30 milltir o Lanfihangel y Pennant i Gapel Celyn dros gyfnod o dridiau.
Ar hyd y daith, fe fydd yr ymgyrchwyr yn galw am Ddeddf Eiddo er mwyn gwneud tai yn fforddiadwy i bobl ar gyflogau lleol allu eu rhentu a’u prynu.
Mae ymgyrchwyr iaith wedi croesawu cynnig a basiodd Cyngor Sir Ceredigion ddoe ar yr argyfwng tai yn y sir.
Yng nghyfarfod llawn y Cyngor ddoe (17 Mehefin), pleidleisiodd Cyngor Sir Ceredigion yn unfrydol o blaid cynnig gan y Cynghorydd Mark Strong sy’n ymrwymo’r Cyngor i alw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno pecyn o fesurau i daclo’r argyfwng tai:
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo Cyngor Gwynedd o fod yn "ddi-fflach" ac yn "rhagweladwy" yn eu cynnig a fydd gerbron y Cabinet wythnos i heddiw (Dydd Mawrth 15/6) i gau Ysgol Gynradd Abersoch yn dilyn ymgynghoriad yn Ionawr a Chwefror eleni. Os caiff y cynnig ei basio, bydd cyfle i wrthwynebu'n ffurfiol Hysbysiad Statudol i gau'r ysgol ond, os bydd y Cyngor unwaith eto'n peidio â newid ei feddwl, gallai'r ysgol gau ar ddiwedd 2021, gan drosgwlyddo'r plant i Ysgol Sarn Bach.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu ymrwymiad y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS, i gyflwyno “pecyn o gynigion” i daclo’r argyfwng tai ond yn pwylseisio y dylai’r pecyn hwnnw fod yn “radical a chynhwysfawr”.
Gyda Llywodraeth San Steffan yn y broses o benderfynu ar setliad ariannol S4C ar gyfer y cyfnod 2022-27, mae mudiad iaith wedi dweud taw dyma’r ‘tro olaf’ dylai’r cyfrifoldeb fod yn eu dwylo nhw.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ysgrifennu at Weinidog Cyfryngau a Data y Deyrnas Gyfunol, John Whittingdale AS, yn galw am drosglwyddo grymoedd darlledu i Gymru er mwyn sicrhau setliad ariannol teg i’r sianel.
Dywed y llythyr:
A ninnau yng nghanol etholiad, mae’n angenrheidiol argyhoeddi’r pleidiau o’n gweledigaeth ar gyfer y pum mlynedd nesaf a’r angen i flaenoriaethu’r Gymraeg yn hytrach na’i gadael yn ôl-ystyriaeth. Fel dinasyddion a phleidleiswyr, mae’r grym yn ein dwylo ni; mae’n hollbwysig ein bod felly’n ystyried record yr ymgeisyddion ar, a’u gweledigaeth ar gyfer, y Gymraeg cyn ein bod yn bwrw’n pleidlais.
Mae Cymdeithas yr Iaith yn honni fod Cymwysterau Cymru yn “cyfaddef eu bod yn bwriadu cadw ac ail-frandio cymhwyster TGAU Cymraeg ail iaith” er gwaethaf ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno un continwwm o ddysgu’r Gymraeg.