Wrth gyflwyno ymateb i ymchwiliad Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan mae Cymdeithas yr Iaith yn disgwyl mai dyma'r tro olaf i bwyllgor yn San Steffan ymgynghori ar ddarlledu yng Nghymru.
Dywedodd Mirain Angharad, is-gadeirydd Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith:
Ar ddiwedd wythnos o ddathlu chwe deg mlynedd o ymgyrchu rydyn ni'n edrych o'r newydd ar yr heriau fydd yn wynebu'r Gymraeg dros y ddegawd i ddod wrth gyhoeddi maniffesto newydd: Cymru Rydd, Cymru Werdd, Cymru Gymraeg: Cymdeithasiaeth i’r 21ain Ganrif.
Y neges glir yn rali Deddf Eiddo ar faes yr Eisteddfod heddiw oedd bod ymgyrchu'n gweithio a bod angen parhau i ymgyrchu.
Wrth gyfeirio at y grymoedd newydd fydd gan awdurdodau lleol i reoleiddio ail dai a thai gwyliau a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf a'r mesurau newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Jeremy Miles i ddiogelu cymunedau, dywedodd un o siaradwyr y rali, Walis Wyn George:
Lansiwyd cynllun Diogelwn yn 2021 er mwyn i berchnogion allu diogelu’r enwau Cymraeg ar eu tai, ond mae e bellach wedi ei ehangu i gynnwys enwau ar dir, a bydd y cynllun ar ei newydd wedd yn cael ei gyflwyno mewn digwyddiad ar stondin Cymdeithas yr Iaith ar faes yr Eisteddfod heddiw (dydd Llun 01/08/2022).
Mae Cymdeithas yr Iaith yn dathlu chwedeg mlynedd o ymgyrchu ac enillion eleni, a bydd y mudiad yn cynnal wythnos o ddathlu ar faes yr Eisteddfod, fydd yn dechrau â thaith gerdded a beicio o Bont Trefechan i faes yr Eisteddfod.
Pont Trefechan oedd safle protest gyntaf y mudiad yn 1963, pan eisteddodd myfyrwyr ar draws y bont a rhwystro'r ffordd fel rhan o brotest dros statws i'r Gymraeg.
Dywedodd Tamsin Davies, is-gadeirydd cyfathrebu Cymdeithas yr Iaith:
Rydyn ni'n galw ar y Llywodraeth i osod nod statudol mai’r Gymraeg fydd iaith cyfundrefn addysg Cymru erbyn 2050 wrth gyhoeddi ein Deddf Addysg Gymraeg yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Daw’r newyddion wrth i Lywodraeth Cymru baratoi i gyhoeddi ymgynghoriad yn yr hydref fel rhan o’i hymrwymiad i gyflwyno deddfwriaeth yn y maes o fewn y pedair blynedd nesaf.
Mae cyfle i chi roi cynnig am ddarlun arbennig gan Ogwyn Davies, yr arlunydd o Drebannws a fu’n byw ac yn gweithio yn Nhregaron fel rhan o arwerthiant cudd fydd yn cau yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron.
Os ydych yn dod i’r Eisteddfod Genedlaethol, gallwch alw yn y stondin i weld y darn, a rhoi eich cynnig mewn amlen.
Os nad ydych yn dod i’r Eisteddfod, mae croeso i chi e-bostio eich cynnig i post@cymdeithas.cymru, neu ei
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ysgrifennu at Arweinydd Cyngor Ceredigion gan alw arno i ‘wneud defnydd llawn’ o’i bwerau newydd i fynd i’r afael â’r argyfwng tai.
Mae’n dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ac Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, fis diwetha y bydd gan awdurdodau lleol ragor o rymoedd i fynd i’r afael ag ail gartrefi. Mae’r pecyn o fesurau yn cynnwys y canlynol:
Wrth ymateb i gyhoeddiad am y cwymp ym mhoblogaeth Ceredigion wrth i bobl ifanc adael y sir rydyn ni wedi galw ar y Llywodraeth i weithredu ar frys.
Yn ôl Is-gadeirydd y mudiad, Tamsin Davies: