Archif Newyddion

12/10/2022 - 17:04
Mae ymgyrchwyr iaith wedi codi pryderon y gallai Comisiynydd newydd y Gymraeg “drio troi’r cloc yn ôl” ar bwrpas y swydd. Fe wnaeth Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol gynnal gwrandawiad gyda'r ymgeisydd sydd wedi’i ffafrio ar gyfer y swydd heddiw, ac awgrymodd hi yr hoffai weld y Comisiynydd yn gwneud llai o waith ar osod Safonau ar gyrff a gwneud mwy o waith hyrwyddo “meddal”. Yn ôl Aled Powell, Cadeirydd Grŵp Hawl Cymdeithas yr Iaith:
08/10/2022 - 14:13
Wrth annerch y Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith, ar ôl cael ei ethol yn Gadeirydd newydd ar y mudiad, pwysleisiodd Robat Idris nad yw'r Gymraeg yn rhywbeth i'w ystyried ar wahân a bod angen cydweithio efo eraill sy'n weithgar mewn pob math o feysydd Wrth gyfeirio at y maniffesto a gyhoeddwyd gan Gymdeithas yr Iaith yn gynharach eleni, Cymru Rydd, Cymru Werdd, Cymru Gymraeg, sy'n gosod brwydr y Gymraeg a'n cymunedau yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd a'r ymgyrch dros annibyniaeth dywedodd Robat Idris:
03/10/2022 - 10:11
Mae Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gâr wedi datgan cefnogaeth i fwriad Cyngor Sir Caerfyrddin i ddiwygio'r broses ddadleuol o ymgynghori ynghylch ad-drefnu ysgolion yn y sir - sydd wedi cynnwys cau ysgolion pentre a newid categori ieithyddol ysgolion eraill. Mae adroddiad ar y broses ymgynghori yn cael ei drafod mewn cyfarfod Cabinet heddiw
30/09/2022 - 11:37
Byddwn ni'n mynegi pryder nad yw Cyngor Ceredigion yn paratoi i godi treth cyngor uwch ar ail gartrefi yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas yr Iaith yn Aberystwyth ddydd Sadwrn nesaf (8 Hydref) wrth drafod cynnig sy’n canmol Cyngor Gwynedd am ymgynghori ar godi treth cyngor uwch ar ail gartrefi i 300%. Fodd bynnag, mae’r cynnig hefyd yn mynegi pryder nad yw Cyngor Ceredigion wedi defnyddio eu pwerau llawn presennol i godi’r dreth i 100%.
26/09/2022 - 11:44
Bydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn trafod ymgynghoriad ar bremiwm treth cyngor ar ail dai a thai gweigion yfory (dydd Mawrth 27/09). Bydd gan Awdurdod Lleol y gallu i godi hyd at 300% o dreth cyngor ar ail dai a thai gweigion o fis Ebrill 2023 ond ond er mwyn gwneud hynny bydd yn rhaid iddynt ymgynghori yn gyhoeddus a chael cymeradwyaeth y Cyngor Llawn erbyn mis Ionawr 2023. Dywedodd Jeff Smith, Cadeirydd grŵp cymunedau Cymdeithas yr Iaith:
26/09/2022 - 11:34
Yn gynharach eleni gwrthododd Toni Schiavone dalu dirwy barcio a gafodd mewn maes parcio yn Llangrannog am fod y ddirwy a'r holl ohebiaeth ddilynol yn uniaith Saesneg. Mae'r cwmni sy'n gyfrifol am y maes parcio hwnnw bellach yn erlyn Arwyn Groe trwy gwmni hawlio dyledion am yr un rheswm. Dywedodd Tamsin Davies, is-gadeirydd cyfathrebu Cymdeithas yr Iaith:
20/09/2022 - 21:21
Danfon neges at arweinydd eich Cyngor, a'ch cynghorydd lleol, i fynnu bod gweithredu ar frys i reoli'r farchnad dai a sicrhau cartrefi i'n pobl. Mewn siroedd gwledig a thwristaidd, dylent o fewn yr wythnosau nesaf fod yn: 1) Cychwyn ymgynghoriad ar lefel y premiwn treth cyngor ar ail gartrefi ar gyfer Ebrill 2023 ymlaen - bydd hawl gan gynhgorau i gynyddu hyd at 300%, ond rhaid ymgynghori nawr neu bydd blwyddyn yn cael ei cholli.
18/09/2022 - 14:38
Mewn rali yn Llangefni ar ddydd Sadwrn 17eg Medi fe wnaeth Cymdeithas yr Iaith gyhuddo Llywodraeth Cymru o lusgo traed yn ei addewid i reoli ail gartrefi a llety gwyliau mewn cymunedau lle mae pobl ifanc yn methu cael lle i fyw yn eu cymuned eu hunain. Esboniodd Osian Jones, un o drefnwyr y rali:
15/09/2022 - 14:57
Disgwylir cannoedd o bobl yn rali "Nid yw Cymru ar Werth" tu allan i swyddfeydd Cyngor Ynys Môn yn Llangefni am 1pm ddydd Sadwrn.
08/09/2022 - 17:13
Mewn rali yn Llangefni ar ddydd Sadwrn 17eg Medi bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o lusgo traed wrth weithredu ei addewid i reoli ail gartrefi a llety gwyliau mewn cymunedau lle mae pobl ifanc yn methu cael lle i fyw yn eu cymuned eu hunain. Esboniodd Osian Jones, un o drefnwyr y rali: