Mewn datblygiad hanesyddol heddiw, bydd papur o flaen Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cwsmeriaid Cyngor Sir Conwy am 2pm brynhawn heddiw (Bodlondeb, Conwy) yn argymell fod y Cyngor yn newid ei Strategaeth Moderneiddio Ysgolion i gydnabod gwerth ysgolion pentrefol Cymraeg. Mae'r adroddiad yn argymell y dylai pob opsiwn yn y dyfodol ystyried yn ddwys anghenion y gymuned leol.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i'r newyddion bod Llywodraeth y DU yn bwriadu newid y gyfraith er mwyn cwtogi ar gyllideb S4C.Bydd y Gymdeithas yn cynnal rali "Na i doriadau, Ie i S4C newydd" ar Ddydd Sadwrn 6ed Tachwedd am 11yb, Parc Cathays, Caerdydd.Fe ddywedodd Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae ein rhaglenni Cymraeg a'n gwasanaeth darlledu cyhoeddus yn y fantol.
Mae ymgyrchwyr iaith wedi cyhuddo'r Llywodraeth o ddweud 'celwyddau' ar ôl iddynt gyflwyno gwelliannau na fydd yn sefydlu'r Gymraeg fel iaith swyddogol na hawliau i'r Gymraeg ychwaith.Heddiw, rhyddhaodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg gynnig a fydd yn mynd gerbron Cyfarfod Cyffredinol y Gymdeithas ar 30ain Hydref yn Aberystwyth sydd yn galw ar Aelodau Cynulliad i beidio â phleidleisio dros y Mesur
Roedd SuperTed yn arwain protest yng Nghaerdydd heddiw yn erbyn cynlluniau'r Llywodraeth i dorri cyllideb S4C.Mae'r Llywodraeth clymblaid Ceidwadwyr- Democratiaid Rhyddfrydol yn bwriadu torri cyllideb yr unig sianel teledu Cymraeg a all olygu lleihad yn y gyllideb o rhwng 25% a 40% - er nad oes toriadau tebyg wedi'u bwriadu i ddarlledwyr eraill.Fe ddywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr y
Mae aelodau o Gymdeithas yr Iaith yng Ngheredigion wedi datgan eu siom yn dilyn cyfarfod a'r Aelod Seneddol, Mark Williams, ar ddydd Mawrth yr 28ain o Fedi, gan iddynt fethu a derbyn addewid diamwys ganddo y byddai'n pleidleisio yn erbyn unrhyw doriadau i gyllideb S4C.
Cyn cyfarfod Cabinet Cyngor Ceredigion heddiw i drafod newid y broses ar gyfer adolygu dyfodol ysgolion pentref, mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar i'r penderfyniad gael ei wneud gan y Cyngor Llawn.Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud mai cysyniad negyddol yw dewis ysgolion unigol ar gyfer adolygu, ac yn ffafrio yn hytrach adolygu pob ysgol yn gadarnhaol ardal wrth ardal er mwyn gweld sut y gellir eu datblygu yn gadarnhaol.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi llongyfarch swyddogion Cyngor Conwy am eu parodrwydd i gymryd sylw o lais y bobl ac am eu penderfyniad i gryfhau ysgolion gwledig Cymraeg yn y sir.
Cadwa dy ddyddiadur yn glir ar gyfer Cyfarfod Cyffredinol / Rali Flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg gynhelir yng Nghanolfan Morlan, Aberystwyth ar ddydd Sadwrn Hydref 30.Bydd y Cyfarfod Cyffredinol yn y bore (10am - 12pm) a'r Rali yn y prynhawn (2pm - 4pm).'Tynged yr Iaith 2' fydd thema y Rali Flynyddol eleni ac fe fydd yr actorion Ryland Teifi a Siôn Ifan yn cymryd rhan (mae'n si?r dy fod wedi eu gweld nhw ar y gyfres ar Pen Talar).
Bydd gwleidyddion, arbenigwyr ac ymgyrchwyr yn trafod sut i amddiffyn cymunedau yng ngogledd Cymru mewn cynhadledd ym Mhrifysgol Glyndwr yfory (10am, Dydd Sadwrn, 25 Medi) yn sgil bygythiadau megis y cynllun is-ranbarthol Caer-Gogledd Dwyrain Cymru a chau ysgolion mewn ardaloedd gwledig.
Ymgyrchu yn y 1970au a rôl GwynforDrwy'r 1970au bu ymgyrchwyr iaith yn brwydro dros gael gwasanaeth teledu Cymraeg. Gwrthodwyd talu'r drwydded deledu gan Gymry amlwg, torrwyd i mewn i stiwdios teledu a bu protestwyr yn dringo mastiau a distrywio cyfarpar darlledu. Tyfodd consensws dros sefydlu sianel i raglenni Cymraeg a daeth yn rhan o faniffestoau y pleidiau gwleidyddol ar gyfer Etholiad 1979. Pan enillodd Margaret Thatcher a'r Ceidwadwyr yr Etholiad fe dorasant eu hymrwymiad a'u haddewid gan ddatgan na fyddai Sianel Gymraeg yn cael ei sefydlu.