Fe wrthododd pennaeth y BBC, Mark Thompson, roi sicrwydd o gyllid gan y BBC i S4C wedi 2015 pan gafodd ei holi gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yng Nghaerdydd heddiw.Fe holwyd Mark Thompson, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, gan aelodau o'r Gymdeithas wrth gyrraedd cinio a drefnwyd gan y BBC ar gyfer gwleidyddion a phwysigion eraill ym mwyty drudfawr y Woods Brasserie,
Heb yn wybod i lawer o'n cyd-Gymry mae'r llywodraeth yn Llundain eisiau gwthio drwodd ddeddfwriaeth newydd a fydd yn rhoi'r grym i weinidogion gwtogi'n eithafol ar gyllid S4C, a hyd yn oed ei diddymu'n llwyr.Mae'r llywodraeth yn ceisio gwthio'r Mesur trwy Senedd San Steffan ar frys, felly mae'n hollbwysig ein bod ni'n dangos ein gwrthwynebiad i'r cynlluniau hyn
Bu tri o Gymry blaenllaw yn cyfarfod ag Alun Ffred Jones, y Gweinidog Treftadaeth heddiw i bwyso arno o'r newydd i barchu statws swyddogol diamod i'r iaith Gymraeg.Daw'r cyfarfod gwta wythnos ar ôl i bedwar ugain a phump o awduron, beirdd, clerigyddion, ysgolheigion, artistiaid a phobl fusnes anfon llythyr agored at y Gweinidog Diwylliant.Dirprwyaeth o'r llythyrwyr hynny oedd yn bresennol, sef yr Athro Richard Wyn Jones, y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor, a'r ddarlledwraig adnabyddus Beti George.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dechrau ymgyrch yn erbyn banciau heddiw (Dydd Sadwrn Tachwedd 13) mewn ymdrech i sicrhau hawliau i'r Gymraeg yn y Mesur Iaith.Er mwyn tynnu sylw'r Llywodraeth at y ffaith na fydd mesur iaith arfaethedig y Gymraeg yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i wasanaethau Cymraeg yn y sector breifat mae aelodau Cymdeithas yr Iaith yn targedu gwahanol rannau o'r sector breifat, g
Daeth dros 2,000 i bobl i Rali gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yng Nghaerdydd heddiw, yn erbyn y toriadau arfaethedig i S4C a'r cynlluniau i'r BBC cymryd y sianel drosodd.Ymysg y siaradwyr yr oedd Arweinydd Plaid Cymru Ieuan Wyn Jones a'r Aelod Seneddol
Mae dros wythdeg o Gymry blaenllaw, megis yr Archesgob Barry Morgan a'r awdur Rachel Trezise, wedi galw am newidiadau i'r Mesur Iaith Gymraeg mewn llythyr agored heddiw (Dydd Iau, 4ydd Tachwedd).Yn y llythyr, mae trawstoriad o Gymry amlwg fel yr Archdderwydd T.
Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn trafod dyfodol S4C mewn cyfarfod cyhoeddus yn Aberystwyth heddiw (2pm, Dydd Sadwrn, 30ain Hydref).Mae'r Llywodraeth yn bwriadu gwneud toriad o 94% i grant y sianel, a throsglwyddo'r cyfrifoldeb ariannu'r darlledwr i'r BBC. Bydd Alun Davies AC Aelod Cynulliad dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn ymuno i gyfrannu at y drafodaeth.
Bydd Cymdeithas yr Iaith yn trafod cynnig brys yn galw ar bobl i wrthod talu eu trwydded teledu o fis Rhagfyr dros gynlluniau'r llywodraeth am S4C a fydd, yn ôl ymgyrchwyr, yn 'ddechrau'r diwedd i ddarlledu Cymraeg'.Mae'r cynnig, a drafodir yng Nghyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Aberystwyth ddydd Sadwrn nesaf (30ain Hydref), yn galw ar bobl i wrthod talu eu trwyddedi teledu o'r
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am brotest o flaen cyfarfod o'r Pwyllgor Craffu addysg Cyngor Sir Gar i ddangos fod pobl y sir wedi cael digon o agwedd negyddol y Cyngor tuag at ysgolion a chymunedau pentrefol Cymraeg.
Mae ymgyrchwyr iaith wedi croesawu gweithredoedd y Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones i ddiogelu darlledu Cymraeg.Fe ddywedodd Rhys Llwyd, Is-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae Alun Ffred Jones yn haeddu canmoliaeth am sefyll yn erbyn y fargen frwnt a wnaed gan y BBC yn Llundain a Llywodraeth San Steffan.