Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi gwneud cwyn swyddogol i wasanaeth y llysoedd ar ol i swyddog awgrymu na ddylai pobl ddi-Gymraeg gefnogi'r iaith.Treuliodd Jamie Bevan dros hanner awr yn ceisio derbyn gwasanaeth Cymraeg yn ymwneud â'i achos ar ôl iddo chwistrellu'r gair "Hawliau" ar adeilad Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd fel rhan o ymgyrch am ddeddfwriaeth iait
Bydd ymgyrchydd iaith yn mynd o flaen y llys heddiw (Dydd Mercher, 9fed Chwefror) ar ôl iddo chwistrellu'r gair "Hawliau" ar adeilad Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd fel rhan o ymgyrch am ddeddfwriaeth iaith gyflawn.Ar yr un dydd â'r achos, fe fydd y mudiad iaith, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn lansio ymgyrch newydd o'r enw "Hawliau i'r Gymraeg".
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi honni bod penderfyniad y BBC i ddiddymu ei wasanaeth chwaraeon ar-lein Cymraeg yn dangos na fyddai S4C yn saff gyda'r gorfforaeth.Meddai Menna Machreth, llefarydd Darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Sut allwn ni ymddiried y BBC i ofalu am S4C yn iawn os mai dyma fel maen nhw'n trin y gwasanaethau Cymraeg sydd ganddyn nhw'n barod?
Fe ddywedodd Menna Machreth, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae'r newyddion hyn, yn ogystal â phenderfyniad y BBC i ddiddymu rhan o'i gwasanaeth ar-lein yn y Gymraeg, yn destun pryder fawr iawn. Rydym ar fin colli rhywbeth unigryw - sef yr unig sianel deledu yn yr iaith Gymraeg yn y byd. Dyma pam rydym yn ymgyrchu yn erbyn cydgynllun y BBC a'r Llywodraeth i gwtogi'n enfawr ar gyllideb S4C. Mae miloedd o bobl wedi ymuno yn ein hymgyrch - trwy fynychu ralïau, cyfarfodydd ac ysgrifennu llythyrau er mwyn achub y sianel.
Mae ymgyrchwyr iaith wedi meddiannu swyddfeydd y BBC yng Nghaerdydd y bore yma.
Aeth yr ymgyrchwyr, gan gynnwys y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor, mab Gwynfor Evans, i mewn i adeilad y BBC gan gyhuddo'r darlledwr o weithredu mewn modd 'annemocrataidd' wrth gymryd S4C (Sianel Pedwar Cymru) drosodd.
Mae'r Parchedig Guto Prys ap Gwynfor a'r hanesydd Dr Meredydd Evans ymysg rhagor o bobl sydd wedi datgan heddiw (Dydd Iau, Ionawr 27) eu bod nhw'n gwrthod talu eu trwydded deledu, wrth i ymgyrchwyr iaith ddechrau cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus i drafod dyfodol S4C.Mae ymgyrchwyr iaith yn pryderu am ddyfodol y sianel ar ôl i Lywodraeth Prydain ddatgan ei bwriad i gwtogi ar gyllideb y sian
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi honni bod y toriadau newydd i Gwasanaeth y Byd yn dangos na fydd S4C yn saff yn nwylo'r BBC.Fe fydd 650 o swyddi yn mynd yn y gwasanaeth ar ôl i'r Llywodraeth torri ei grant i'r sianel 16% a'i hariannu trwy'r ffi drwydded, cynllun tebyg i'r un a gynigiwyd ar gyfer S4C.Fe ddywedodd Menna Machreth, llefarydd darlledu'r mudiad:"Nid yw'r cwtogiadau
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i benderfyniad Prifysgol Aberystwyth i benodi Is-ganghellor newydd sydd yn ddi-Gymraeg.Fe ddywedodd Ffred Ffransis, llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae rhaid ei bod yn ddydd Ffwl Ebrill heddiw.
Achosodd protestwyr iaith oedi i lansiad swyddogol canolfan celfyddydau newydd gan y Prif Weinidog ym Mhrifysgol Bangor heddiw (Dydd Gwener, Ionawr 21).Fe ddaeth tua 16 o brotestwyr ynghyd gyda phosteri yn dweud "Ble mae'r Gymraeg?", "Pontio, fflop i'r gymuned a'r Gymraeg", ac "A fo ben bid fflop" gan lwyddo i atal y seremoni lansio swyddogol rhag mynd yn ei flaen am tua 20 munud.Mae'r
Mae ymgyrchwyr wedi beirniadu cynllun i godi 2,000 o adeiladau newydd gan gynnwys cartrefi a siopau ym mhentref Bodelwyddan yn Sir Ddinbych. Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus ddydd Llun i drafod asesiad gan y Cyngor Sir i effaith tebygol y datblygiad ar gymuned y pentref a'r iaith Gymraeg.Roedd tua 80 o bobol wedi mynd i'r cyfarfod er mwyn gwrthwynebu'r cynllun fyddai'n treblu maint y pentref sydd ger yr A55. Bydd ymgynghoriad chwe wythnos i'r datblygiad yn dechrau ar 26 Ionawr.