Gwelliannau i'r Mesur Iaith ar y bwrdd - pleidlais hanesyddol gan Aelodau Cynulliad CymruMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi penderfynu gohirio ei ymgyrch yn erbyn y Llywodraeth, a welodd 6 person yn cael eu harestio wythnos ddiwethaf, ar ôl i Aelod Cynulliad gyflwyno gwelliant i'r Mesur Iaith Gymraeg a fyddai'n sefydlu hawliau i'r Gymraeg.Dywed y mudiad ei fod
Cynhelir rali Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yng Nghaernarfon heddiw (Dydd Sadwrn, Rhagfyr 4ydd), yn erbyn toriadau arfaethedig S4C, a'r toriadau yn gyffredinol, fydd yn ôl y Gymdeithas yn niweidiol iawn i ddyfodol cymunedau Cymraeg.Fe fydd siaradwyr megis AS Arfon Hywel Williams, Silyn Roberts o'r Undeb Unsain, David Donovan o'r undeb BECTU, Hywel Roberts undeb y PCS, Daf
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi heddiw fod Llywydd Plaid Cymru, Jill Evans wedi cadarnhau y bydd yn ymuno ag ymgyrch y Gymdeithas i wrthod talu am ei thrwydded deledu oherwydd y bygythiad diweddar i ddyfodol y sianel Gymraeg.Yn ogystal, datganodd y Gymdeithas eu bod nhw'n lansio yn swyddogol eu hymgyrch i beidio talu'r drwydded heddiw gan fod y Llywodraeth ddim wedi dangos awydd i newid
Mae Cabinet Cyngor Sir Ceredigion wedi penderfynu heddiw i fwrw ymlaen â'r argymhelliad amhoblogaidd y dylai pob ysgol gynradd yn ardal Llandysul gau er mwyn creu un ysgol enfawr.
Mae chwech ymgyrchydd iaith wedi cael eu harestio ar ôl peintio sloganau ar adeiladau'r Llywodraeth heddiw mewn protest ynglýn a diffygion y Mesur Iaith Gymraeg.
Mae ymgyrchwyr Iaith wedi ymateb yn ffyrnig i benderfyniad Ysgrifennydd Ddiwylliant y DG, Jeremy Hunt, i wrthod cynnal adolygiad o S4C.Ychydig wythnosau yn ôl ysgrifennodd arweinydd pob plaid yng Nghymru at David Cameron yn gofyn am "archwiliad cynhwysfawr" o'r sianel.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu'n llym yr Aelod Seneddol Toriaidd Simon Hart, am ddweud celwydd ynghylch maint y toriadau i gyllideb S4C mewn cymhariaeth a llefydd eraill o fewn y DCMS. Mewn ebost at aelod o'r Gymdeithas dywed Simon Hart:"...
Dywed Sioned Elin, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin a rhiant yn Ysgol Bancffosfelen:"Rydym yn barod i dderbyn gair Bwrdd Gweithredol y Cyngor Sir eu bod yn barod i roi cyfle i ysgolion Llan-gain, Bancffosfelen a Llanedi i barhau i wasanaethu eu cymunedau.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi llongyfarch pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Gar am gefnogi cymuned Waungilwen, Drefach Felindre a gwrthwynebu argymhelliad y swyddogion cynllunio i ganiatau datblygiad o 13 o dai yn y pentref. Mewn cyfarfod o'r pwyllgor cynllunio ddoe 23/11/10 fe siaradodd aelodau o gymuned Waungilwen a'r cynghorydd sir leol John Crossley yn gryf yn erbyn y cais yma a fyddai'n cael effaith mor niweidiol ar iaith a diwylliant y gymuned fach glos yma. Hefyd yn siarad roedd Angharad Clwyd, Trefnydd Dyfed Cymdeithas yr Iaith a Chynghorydd Cymuned yn ward Llangeler.
Dadorchuddiwyd poster enfawr gan ymgyrchwyr iaith tu allan i'r Senedd yng Nghaerdydd heddiw yn dangos y Gweinidog Treftadaeth gyda'i ddwylo dros ei glustiau yn anwybyddu barn yr holl fudiadau ac unigolion sydd am gryfhau'r Mesur Iaith.