Cynhaliodd Cymdeithas yr Iaith brotest ar gopa'r Wyddfa heddiw (Dydd Mercher, 14eg Gorffennaf) mewn ple funud olaf at Gynghorwyr Gwynedd o flaen bleidlais dyngedfennol ar ddyfodol Ysgol Parc, Y Bala .Daeth criw o blant Ysgol Ysbyty Ifan i ymuno ag aelodau'r Gymdeithas ar y copa i dystio i bwysigrwydd eu hysgol nhw ac i ddatgan cefnogaeth i'r Parc. Aeth y Daith wedyn lawr llethrau'r Wyddfa ac ymlaen i Ddyffryn Nantlle heno gan gynnal cyfarfod pellach tu allan i Ysgol Baladeulyn.
Bydd y Daith yn cychwyn o'r argae ar draws y llyn yn dilyn "Rali Tryweryn 2010" a drefnir gan Bwyllgor Amddiffyn y Parc. Bydd cefnogwyr yn cerdded y 70 milltir heibio i ysgolion eraill yng Ngwynedd a Chonwy sydd tan fygythiad, ac i fyny ac i lawr Yr Wyddfa, ar y ffordd at gyfarfod o Gyngor Gwynedd brynhawn Iau (15fed Gorffennaf) a fydd yn pleidleisio ar ddyfodol Ysgol y Parc.
Bydd cynllun gwobrwyo cwmnïau sydd yn cynnig gwasanaethau Cymraeg arbennig o dda yn cael ei lansio gan gyflwynydd teledu Angharad Mair ac aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yng Nghaerfyrddin heddiw.Os ydych chi'n gwybod am fusnes sy'n haeddu gwobr tebyg, cysylltwch â ni.Mae hyn yn drywydd newydd i'r mudiad sydd wedi canolbwyntio ar ymgyrc
Yn dilyn y bleidlais agos yn y Cyngor Llawn (17-14) wythnos diwethaf ynghylch y bwriad i gau holl ysgolion ardal Llandysul a sefydlu un ysgol i oedran 3-19. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi gwneud ple olaf i aelodau cabinet Cyngor Sir Ceredigion cyn eu cyfarfod yfory (Mawrth 6/7).Fe alwodd y pwyllgor craffu addysg dydd Llun diwethaf ar y cabinet i ystyried alternatifs ar gyfer ardal Llandysul.
Bydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn cerdded 70 o filltiroedd er mwyn dobarthu a llaw Cerdyn Post anferth o Dryweryn i gynghorwyr Gwynedd yng Nghaernarfon o flaen pleidlais dyngedfennol am ddyfodol ysgol sy'n gonglfaen i un o gymunedau pentrefol enwocaf Cymru.Ar brynhawn Iau y 15ed o Orffennaf, bydd y Cyngor llawn yn pleidleisio ar ddyfdol yr ysgol yn y Parc, ger Y Bala, man geni Merched y Wawr.
Heddiw mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu penderfyniad gorsaf radio Heart FM i symud eu canolfan ddarlledu sydd yn gwasanaethu Gwynedd a Môn o Fangor i Wrecsam.Dywedodd Gerallt Roberts aelod o rhanbarth Gwynedd / Môn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg."Ers misoedd bellach mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod mewn deialog gyda swyddogion o Heart FM ynglýn a'n pryderon nad ydi'r orsaf yn adl
Bydd sefydliadau gwrth-Gymraeg yng ngogledd Cymru yn elwa o gynlluniau'r Llywodraeth i ddeddfu ar yr iaith Gymraeg, yn ôl siaradwyr mewn rali ym Mhorthmadog heddiw (Dydd Sadwrn, 19eg Mehefin).Bydd beirniadaeth lem o fethiannau ymddiriedolaeth GIG Gogledd Cymru, Betsi Cadwaladr, i ddarparu gwasanaeth Cymraeg - nid oes un o'r cyfarwyddwyr y corff yn siarad Cymraeg. Mewn adroddiad diweddar gan bwyllgor Ewropeaidd o arbenigwyr, beirniadwyd y GIG yng Nghymru am fethu darparu gwasanaethau Gymraeg digonol.Bydd y bardd Twm Morys a'r canwr Ceri Cunnington hefyd yn annerch y protest.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi mynegi siom heddiw ar ôl i Brifysgol Bangor penderfynu argymell penodi Is-Ganghellor sy'n ddi-Gymraeg. Mae'r mudiad yn dadlau bod cyfle o hyd i'r Brifysgol gosod dyletswydd gyfreithiol ar yr ymgeisydd llwyddiannus i ddysgu Cymraeg.Dros yr wythnosau diwethaf mae pwysau o d?
Mae pedwar ar ddeg o grwpiau iaith wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am newidiadau i'w chynlluniau am Fesur Iaith newydd. Mewn llythyr agored at y Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones, mae'r mudiadau - gan gynnwys yr undeb athrawon UCAC, Chyfeillion y Ddaear ac arbennigwr Iaith Yr Athro Colin Williams - yn dweud:"Mae'r iaith Gymraeg yn wynebu bygythiadau o bob tu: toriadau yng nghyllideb S4C, y Cynulliad yn torri'r cofnod dwyieithog, a dyfodol addysg Gymraeg yn y brifddinas.
Bydd haid o fôr-ladron ifainc yn dilyn map trysor draw at bafiliwn Cyngor Ceredigion wrth fod Cymdeithas yr Iaith yn dod â'r frwydr am ddyfodol ysgolion Pentrefol Cymraeg i faes Eisteddfod yr Urdd heddiw (Dydd Llun, Mai 31ain).Bydd y Gymdeithas yn portreadu swyddogion Cyngor Ceredigion yn fôr-ladron unllygeidiog sydd wedi adeiladu eu cestyll drudfawr eu hunain ar yr arfordir yn Aberystwyth ac Aberaeron ac yn awr yn ymosod ar cymunedau gwledig i geisio dwyn trysorau o drigolion lleol.Esboniodd trefnydd y Gymdeithas yn Nyfed, Angharad Clwyd:"Mae'r plant yn ymwisgo fel môr-ladron unllygeid