Ar ddydd Gwener y 6ed o Dachwedd am 9.30 y bore bydd Osian Jones, Trefnydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y Gogledd, yn ymddangos o flaen llys ynadon Pwllheli i dderbyn mis o garchar.Fe'i dedfrydwyd am weithredu yn erbyn siopau Boots, Superdrug, Matalan a PC World ym Mangor rai
Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal Cyfarfod Cyffredinol a Rali Flynyddol y mudiad yng Nghanolfan Gymraeg Merthyr Tudful ar ddydd Sadwrn Hydref 24 gan gyhoeddi fod 'Chwyldro Newydd yn y Cymoedd'. Bydd y Cyfarfod Cyffredinol yn dechrau am 10.30 y bore a'r Rali Flynyddol am 2 y prynhawn.Dywedodd Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Yr oeddem yn falch iawn felly o gael gwahoddiad gan ein haelodau ym Merthyr Tudful i gynnal Cyfarfod Cyffredinol 2009 yn y dref honno.
Heddiw am 2 o'r gloch bydd tri aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyfarfod Peter Hain yng Nghaerdydd i drafod y Gorchymyn Iaith. Y tri ar ddirprwyaeth y Gymdeithas fydd Menna Machreth (Cadeirydd), Bethan Williams (Arweinydd Ymgyrch Deddf Iaith y Gymdeithas) a Ffred Ffransis (Senedd Cymdeithas yr Iaith).Dywedodd Menna Machreth ar ran dirprwyaeth y Gymdeithas:"Byddwn yn pwysleisio fod y system o drin a thrafod y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar yr iaith Gymraeg wedi bod yn llafurus, hirwyntog a chymhleth.
Ar raglen Good Morning Wales bore yma dywedodd Peter Hain ei fod yn falch fod Llywodraeth y Cynulliad, Swyddfa Cymru a San Steffan wedi canfod 'common sense solution' ynghylch y Gorchymyn Iaith.
Cyhoeddi'r Gorchymyn Iaith terfynol yn rhwystro'r ffordd at hawliauWedi cyhoeddi'r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (LCO) terfynol ar yr iaith Gymraeg, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn siomedig nad yw Llywodraeth 'sosialaidd' wedi gweithredu o blaid pawb yng Nghymru sydd am ddefnyddio'r Gymraeg ac am weld y Gymraeg yn iaith normal yng Nghymru.Er bod tystiolaeth gref wedi ei roi gan Gymdeithas yr Iaith, Mudiadau Dathlu'r Gymraeg a Llywodraeth Catalonia, sydd â deddf iaith sy'n cynnwys y sector breifat, yn galw am i'r holl bwerau dros yr iaith Gymraeg i gael eu trosglwy
Mi fydd Osian Jones - trefnydd Cymdeithas yr iaith yn y gogledd - yn mynd gerbron Llys Ynadon Pwllheli ar Dachwedd y 6ed am 9.30 y bore, lle bydd yn cychwyn ar ei gyfnod o 28 diwrnod yn y carchar am ei weithred yn erbyn cwmnïau Boots, Superdrug, Matalan a PC World.Gweithredodd Osian drwy beintio sloganau a gosod sticeri ar siopau Boots, Superdrug, Matalan a PC World, a oedd
Mi fuodd aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn picedu cynhadledd Plaid Cymru yn "Venue Cymru" Llandudno heddiw, dydd Sadwrn Medi 12 fed.Buodd yr aelodau yn picedu oherwydd fod y Gorchymyn Iaith fel ac y mae yn rhwystro'r ffordd tuag at hawliau ieithyddol cyflawn, ac i ddangos eu rhwystredigaeth na fydd cwmniau megis Tesco, Boots a Superdrug nac unrhyw siop stryd fawr arall yn cael eu cynnwys yn y Gorchymyn Iaith.
Cafodd Osian Jones, trefnydd Cymdeithas yr Iaith yn y gogledd, ddedfryd o fis o garchar wedi ei ohirio gan Lys Ynadon Pwllheli heddiw, am greu difrod troseddol i eiddo siopau PC World a Matalan ym Mangor, wedi iddo godi sticeri a phosteri ar y siopau ym mis Mai, yn galw am Fesur Iaith cyflawn sy'n cynnwys y sector breifat, ac yn cyfathrebu'r neges fod y Gorchymyn Iaith fel y mae yn rhy gul, ac yn rhwystro ffordd pobl Cymru at eu hawliau i'r Gymraeg.
Trafod ein Cymunedau Cymraeg a degau yn gweithredu'n uniongyrchol yn erbyn y LlywodraethCafodd Cymdeithas yr Iaith wythnos fyrlymus arall yn herio'r Llywodraeth am y Gorchymyn Iaith ynghyd â thrafodaeth ddeinamig ar faes yr Eisteddfod ynghylch sut i greu cymuned Gymraeg gynaliadwy.Cyfarfod 'Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy', Dydd Mercher Awst 5ed:Cafwyd ymateb da iawn