Fe fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn mynd â neges glir i'r Pwyllgor Materion Cymreig yn Llundain ddydd Llun nesaf, sef y dylid datganoli holl bwerau dros y Gymraeg o San Steffan i Gymru, heb unrhyw gyfyngiadau.
Am 9.30 dydd Mawrth Mawrth 17 fe fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Deddfwriaeth ar yr Iaith Gymraeg. Rhoddir y dystiolaeth ar ran y Gymdeithas gan Menna Machreth (Cadeirydd), Sioned Haf (Swyddog Ymgyrchoedd) a Sian Howys (Swyddog Polisi Deddf Iaith). Yn eu tystiolaeth fe fydd y Gymdeithas yn pwysleisio'r angen fod yn rhaid i'r Gymraeg gael statws swyddogol yng Nghymru.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddilyn esiampl Yr Alban (gw. eu datganiad heddiw) trwy osod rhagdyb o blaid ysgolion bach. Yn ôl y Gymdeithas, byddai hyn yn gorfodi gwleidyddion a swyddogion 'diog' i gynllunio'n iawn ar gyfer ysgolion bach a byddai'n rhoi hwb newydd i rieni ac i gymunedau sy'n digalonni am ddyfodol eu hysgolion.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhuddo y cwmni gyda'i wreiddiau yng Nghymru o lusgo'r iaith Gymraeg yn ôl i Oes yr Ia. Dywedodd Dafydd Morgan Lewis:"Yr oedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Llangefni bore heddiw wrth i gwmni Iceland agor siop newydd yn y dre.
Ar nos Wener, Mawrth 13, bydd noson arbennig iawn yn cael ei chynnal yng Nghaernarfon i godi arian i bobl Gasa. Bydd Cymdeithas yr Iaith yn rhoi cyfle i bobl gyfrannu drwy ddod i gefnogi noson lle bydd Steve Eaves a Gwilym Morus yn chwarae. Steve Eaves ei hun sydd wedi cynnig cynnal noson, ac rydym yn ffyddiog y bydd yn gyfle i nifer fawr iawn o gyfrannu i achos sydd wedi eu cyffwrdd yn ddwfn.
Heddiw (Chwefror 5ed 2009) daeth Gweithgor Ysgolion Gwynedd yn ôl ac argymhellion o flaen y Pwyllgor Craffu Plant a Phobol Ifanc, yn datgan y bydd y cyngor yn mynd rhagddi gyda chynllun o ymgynghori llawn.
Cyhoeddi'r Gorchymyn Iaith yn fan cychwyn ond yn rhwystro’r ffordd at hawliau.Ar ddiwrnod hanesyddol cyhoeddi’r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (LCO) ar yr iaith Gymraeg, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn herio Llywodraeth y Cynulliad i fynnu mwy o bwerau er mwyn llunio mesur iaith cyflawn – a hynny heb ymyrraeth oddi wrth y Senedd yn Llundain.Mae’r Gorchymyn yn cynnwys pwerau i wneud yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol a sgôp i sefydlu Comisiynydd Iaith Gymraeg – dau bwynt allan o dri bu Cymdeithas yr Iaith yn galw amdanynt."Ond hawliau amodol yw’r hyn sy’n cael eu cy
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyhoeddi ei siom o ystyried cyn lleied o ystyriaeth o'r iaith Gymraeg sydd o fewn papur ymgynghorol Llywodraeth y Cynulliad ar gynaladwyedd yng Nghymru. Mae'r papur sydd am weld mabwysiadu rhesymoldeb a thactegau fydd o fudd i ddyfodol a iechyd gynhaliol Cymru wedi bod drwy broses o ymgynghori ers diwedd 2008.