Er bod sylwadau negyddol wedi'u clywed gan un o aelodau o'r Ceidwadwyr yng nghyfarfod Pwyllgor sy'n craffu ar Orchymyn yr Iaith Gymraeg yn y Cynulliad mae llefarydd y Ceidwadwyr ar Addysg a'r iaith Gymraeg, Paul Davies AC, wedi datgan ei fod ef yn cytuno gyda Chymdeithas yr Iaith Gymraeg y dylid datganoli'r holl bwerau dros y Gymraeg i'r Cynulliad yng Nghymru.Dywed Paul Davies AC:"Rwy'n cy
Mae wedi dod i sylw Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bod gweithiwr ym Morrisons Caergybi wedi cael ei atal rhag siarad Cymraeg gyda'i gydweithwyr gan Reolwr y siop.Cafodd Mr David Evans, a oedd yn gweithio yn y siop, ei rybuddio gan Reolwr Morrisons sawl gwaith na ddylai siarad Cymraeg gyda'i gydweithwyr.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn croesawu canlyniadau'r arolwg a gyhoeddwyd gan Fwrdd yr Iaith heddiw, sy'n dangos pwysigrwydd yr iaith i dros 80% o bobol Cymru. Mae'r arolwg yn dangos y gefnogaeth enfawr i normaleiddio'r Gymraeg, a'r awydd i greu Cymru ddwyieithog.
Rhoddwyd sticeri 'LCO yn rhwystro hawliau iaith yn y lle hwn' ar ffenestri siopau cadwyn ar strydoedd drwy Gymru yn ystod y nos neithiwr (nos Iau, 23ain o Ebrill) er mwyn tynnu sylw nad yw'r cwmnioedd a dargedwyd wedi eu cynnwys yn y Gorchymyn Iaith Gymraeg (LCO).Bydd Alun Ffred Jones, y Gweinidog Treftadaeth, yn ymddangos eto o flaen Pwyllgor Craffu'r Gorchymyn Iaith yr wythnos nesa,
Am 9am heddiw, cyflwynodd Cymdeithas yr Iaith i Gyngor Ceredigion y cyntaf o lawer o Beiriannau Gwasgu (steamrollers) a fyddant i'w gweld trwy'r sir a rhannau eraill o Gymru'n ystod y misoedd nesaf.
Tra bydd cyfarwyddwraig BT yng Nghymru yn rhoi tystiolaeth gerbron Pwyllgor Deddfwriaeth y Cynulliad, am 9am ar ddydd Mawrth, Mawrth 31ain, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn gwrthdystio tu allan i adeilad y Senedd, i ddangos nad yw'r ddeddfwriaeth iaith bresennol yn ddigon da a'r angen am Orchymyn Iaith eang.
Yn dilyn y cyhoeddiad ddoe mewn cyfarfod agored o'r Bwrdd sy'n trafod modelau posib ar gyfer y Coleg Ffederal Cymraeg, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn croesawu'r cyfeiriad mae'r Bwrdd yn ei gymryd a'r egwyddorion sylfaenol maent yn eu harddel ar hyn o bryd.Dywedodd Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Rydym yn cyd-weld â gweledigaeth y bwrdd am sefydliad annibynnol gydag arian wedi ei gorlannu.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw ar CBI Cymru i roi'r gorau i'w hymdrech i rwystro'r ffordd i bobl Cymru gael hawl i ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob rhan o fywyd.