Mae Cymdeithas yr Iaith wedi addo gwneud popeth yn ei gallu i atal datblygiad tai a fyddai'n tanseilio cymuned Gymraeg yn Nyffryn Teifi ac yn gwneud nonsens llwyr o gyfreithiau cynllunio.
Er mwyn tynnu sylw pobol Cymru at yr argyfwng ac nad yw bellach yn bosibl i bobl ifanc fyw yn eu cymunedau fe fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn codi 'Tŷ Unos' ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn ei gludo o'r uned i Uned Llywodraeth Cymru ar y Maes am 1 o'r gloch dydd Gwener Awst 8.
Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno rhybudd olaf i Lywodraeth y Cynulliad ar faes yr Eisteddfod ddydd Iau y 7fed o Awst. Mae'r Gymdeithas hyd yn oed wedi gwahodd Alun Ffred Jones y Gweinidog Treftadaeth newydd i ymuno gyda hwy yn y gwrthdystiad.
Bydd Cymdeithas yr iaith yn gweithredu ar faes yr Eisteddfod er mwyn agor i'r bobl yr ymgyrch a'r ddadl am Goleg Ffederal Cymraeg. Mae'r Gweinidog Addysg, Jane Hutt, wedi cyhoeddi sefydlu Gweithgor - i'w gadeirio gan Robin Williams - er mwyn astudio gwahanol fodelau ar gyfer Coleg Ffederal Cymraeg ac felly wireddu un o addewidion sylfaenol dogfen "Cymru'n Un" Llywodraeth y Cynulliad.
Y lleoliad am yr wythnos fydd Clwb Ifor Bach, Stryd Womanby, Caerdydd, gyda tri llawr o adloniant yn cael eu cynnal o nos Sadwrn drwodd i nos Sadwrn a dau gig gwahanol yn cael eu cynnal bob nos. Mae'r llawr gwaelod yn dal 210 yn unig a'r llawr canol/uchaf 260 - felly cysylltwch â'r brif swyddfa i archebu tocynnau cyn iddyn nhw werthu allan - 01970 624501 neu post[AT]cymdeithas[DOT]org .
Mi fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn cyflwyno tystiolaeth ger bron Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn sioe Llanelwedd heddiw. Lansiwyd y ddeiseb wedi datganiad y cyn Weinidog Treftadaeth, Rhodri Glyn Thomas, yn mis Chwefror eleni, mai ond £200,000 y flwyddyn a fyddai’n yn mynd tuag at ddatblygu'r wasg Gymraeg.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi anfon neges yn llongyfarch Alun Ffred Jones ar gael ei benodi yn Weinidog Treftadaeth. Dywedodd Dafydd Morgan Lewis ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg,"Dymunwn yn dda i Alun Ffred Jones yn ei swydd newydd. Ein teimlad ar hyn o bryd yw fod Llywodraeth y Cynulliad ar brawf pan ystyrir ei hymrwymiad i'r Gymraeg. Bu'r methiant i sefydlu papur dyddiol yn siom fawr i ni.
Mae Cymdeithas yr Iaith yn croesawu datganiad Jane Hutt heddiw fod y Llywodraeth yn dal i anelu at sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg yn hytrach na bodloni ar ddiwygiadau ar y drefn bresennol. Fodd bynnag, mae’r Gymdeithas wedi rhybuddio fod angen symud lawer ynghynt ac na ddylid cyfyngu’r trafod i’r sefydliadau addysgol.
Bydd Steffan Cravos cyn-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac Osian Jones Trefnydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yng ngogledd Cymru yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caernarfon yfory (dydd Mercher Gorffennaf 16) am 9 o'r gloch y bore wedi eu cyhuddo o achosi difrod troseddol i siopau Superdrug a Boots yn Llangefni, Bangor a Chaernarfon ar Fehefin 9.