Fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i atgoffa Llywodraeth y Cynulliad o'r angen am ddeddfwriaeth gref ym maes y Gymraeg, bydd Maer Tref Caerfyrddin yn llenwi ffurflen gwyno y tu allan i siop Tesco yng Nghaerfyrddin bore dydd Iau y 27/3 am 11am.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan eu cefnogaeth i drigolion pentref San Clêr yn eu hymgyrch i atal datblygiadau tai niferus yn y pentref. Fe fydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal heno am 7.30pm yn Ysgol Griffith Jones, San Clêr i drafod y camau nesaf i atal y datblygiadau.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu'r cyhoeddiad heddiw gan y Cyng. Dyfed Edwards (cynghorydd gyda phortffolio addysg Cyngor Gwynedd) y bydd y cynllun i ad-drefnu a ffedereiddio degau o ysgolion yng Ngwynedd y cael ei ohirio am flwyddyn hyd nes bod canllawiau newydd y Cynulliad ar ffedereiddio a chlystyru ysgolion yn glir.
Daeth dros 300 o bobl i Rali Genedlaethol Cymdeithas yr Iaith dros Ddeddf Iaith Newydd y tu allan i adeilad y Cynulliad ym Mae Caerdydd Dydd Sadwrn 23ain Chwefror.
Heddiw bu aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyfarfod aelodau marchnata cwmni Morrisons, i ddilyn y cyfarfod a fu rhwng y cwmni ar Gymdeithas yn ôl yn mis Mehefin 2007. Bwriad y cyfarfod oedd asesu'r datblygiadau diweddar yn eu polisi au defnydd o'r iaith Gymraeg.
Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyflwyno deiseb i'r Gweinidog Treftadaeth Rhodri Glyn Thomas yfory (dydd Llun Mawrth 3ydd 2008) yn galw arno i gadw at ei addewid i sefydlu papur dyddiol yn Gymraeg. Casglwyd dros 1,000 o enwau ar y ddeiseb mewn cyfnod cyfyngedig o bythefnos yn unig.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu'r dull haerllug ac ansensitif y mae Cyngor Sir Gar wedi trin rhieni a chymunedau lleol lle y bygythiwyd cau eu hysgolion. Dywedodd y Gymdeithas fod polisi "Moderneiddio" addysg y sir yn llanast llwyr a galwasant ar bleidleiswyr i ddal y Cyngor yn atebol yn yr etholiadau lleol sydd ar y gorwel.
Daeth dros 300 o bobl i Rali Genedlaethol Cymdeithas yr Iaith dros Ddeddf Iaith Newydd y tu allan i adeilad y Cynulliad ym Mae Caerdydd Dydd Sadwrn 23ain Chwefror. Bwriad y Rali oedd cadw'r pwysau ar y llywodraeth i sicrhau Deddf Iaith Newydd gynhwysfawr ar ôl gweld y llywodraeth yn torri dau o addewidion Cymru'n Un yn ystod y misoedd diwethaf.
Annwyl Rhodri Glyn Thomas (Gweinidog Treftadaeth),Rwy’n ysgrifennu ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i ddatgan siom ein haelodau bod Llywodraeth y Cynulliad wedi torri ei haddewid i sefydlu papur dyddiol Cymraeg. Nid wyf yn cwestiynu eich ymrwymiad personol i’r cysyniad, ond mae’n rhaid i mi gwestiynu rhai pethau sydd yn ymddangos fel gwrthddweud llwyr ym mholisïau’r llywodraeth.