Daeth dros 200 o aelodau a chefnogwyr Cymdeithas yr Iaith i brotest ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala heddiw, lle cyflwynwyd ddeiseb brys wedi'i arwyddo gan gefnogwyr yn yr wyl. Byrdwn y neges oedd yr angen i brysuro gyda'r gwaith o drosglwyddo pwerau deddfu dros y Gymraeg i Gymru.
Daeth dros 100 o bobl i Gyfarfod Cyhoeddus 'Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy' ym Mhabell y Cymdeithasau, ar Faes Eisteddfod Genedlaethol y Bala heddiw. Dywedodd Hywel Griffiths arweinydd ymgyrch Cymunedau rhydd y Gymdeithas:"Ers rhai misoedd mae rhai o swyddogion Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y cyd gyda thrigolion Penllyn wedi bod yn trafod y mater hwn.
Am 2pm Llun 3ydd Awst, bydd Cymdeithas yr Iaith yn lansio cystadleuaeth logo ar gyfer y Coleg Ffederal Cymraeg y mae Llywodraeth y Cynulliad yn dweud eu bod yn y broses o'i sefydlu. Bydd Angharad Tomos - cartwnydd ac aelod blaenllaw o'r Gymdeithas - yn bresennol yn uned y Gymdeithas ar y maes i gynnal gweithdy ar gyfer myfyrwyr y dyfodol ar lunio logo. Mewn man arall o'r uned, bydd aelodau eraill yn cynllunio logo ar ffurf digidol ar gyfrifiadur.
O'i huned (rhif 401 - 402) ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol fe fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn arwain yr ymgyrch dros Gymunedau Cymraeg Cynaliadwy.Dywedodd Menna Machreth Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Ni ellir dianc rhag y ffaith fod yr Eisteddfod eleni yn agos iawn at Lyn Tryweryn. Boddi Cwm Celyn yn y chwedegau achosodd i'r Cymry sylweddoli o ddifrif pa mor ddiamddiffyn a bregus oedd eu cymunedau, ac mor fawr y perygl a wynebai'r iaith Gymraeg.
Ar drothwy cyfarfod rhwng Hywel Francis AS a Carwyn Jones AC yfory (21/07/09) i drafod y broses o drosglwyddo pwerau pellach i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi codi pryderon a nodi eu rhwystredigaeth yngl?n â'r broses.
Yn ei hymateb i Strategaeth Ddrafft Addysg Gymraeg Llywodraeth y Cynulliad ( cyfnod ymgynghori'n dod i ben ar Awst 5ed ) mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am newid sylfaenol yn nod y strategaeth.
Mae Cymdeithas yr Iaith yn croesawu cyhoeddiad gan y Pwyllgor Materion Cymreig ac yn falch fod y Pwyllgor yn gweld yn dda mai y Cynulliad Cenedlaethol ddylai fod â'r cyfrifoldeb i ddeddfu ar yr iaith Gymraeg.Meddai Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:'Mae'n galonogol fod y Pwyllgor Materion Cymreig yn unfrydol eu barn mai'r Cynulliad dylai ddeddfu ar yr iaith Gymraeg.
Cred Cymdeithas yr Iaith bod holiadur a anfonwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin at rieni yng Nghwm Gwendraeth yn gamarweiniol ac o'r herwydd bydd y canlyniadau'n ddi-ystyr.
Bydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn picedu cynghorwyr ar eu ffordd i mewn i gyfarfod allweddol o Gyngor Ceredigion am 9am fore Mawrth (30/6) sy'n ailystyried y penderfyniad i gyhoeddi Rhybudd Statudol i gau Ysgol Syr John Rhys, Ponterwyd.Mewn neges at y cynghorwyr, dywed y Gymdeithas fod y broses o benderfynu cau'r ysgol bentrefol Gymraeg ym Mhonterwyd wedi bod mor frysiog ac mor wallus fel ei b