Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw'r Gweinidog Darlledu Ed Vaizey yn ddi-glem ar ol iddo gyflwyno tystiolaeth am S4C i ASau heddiw.Cyfaddefodd y Gweinidog, sydd yn gyfrifol am S4C yn y llywodraeth, heddiw nad oedd erioed wedi gwylio'r sianel ac nad oedd sicrwydd am arian i'r sianel ar ol 2015 chwaith.Fe ddywedodd, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Bethan Williams:"Mae'n anhygo
Rhagair Argraffiad NewyddWedi ffurfio llywodraeth newydd yn Llundain ym Mai 2010, penderfynodd y Glymblaid Geidwadol/Ryddfrydol gwtogi'n ddifrifol ar wariant cyhoeddus mewn ymateb i'r argyfwng ariannol a achoswyd ynghynt gan y banciau yn y sector breifat.Bw
Bron i bumdeg mlynedd ar ôl darlith 'Tynged yr Iaith' gan Saunders Lewis, a arweiniodd at sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, bydd y mudiad yn rhannu ei gweledigaeth ar sut i sicrhau cymunedau Cymraeg cynaliadwy - mewn araith o'r enw Tynged yr Iaith 2.
Bydd rhai o aelodau'r mudiad yn darllen yr araith arbennig yma ym Mlaenau Ffestiniog ar y penwythnos (2pm, Dydd Sadwrn, Ionawr 15fed) a bydd plant ysgol y parc, ysgol mewn cymuned Cymraeg sydd o dan fygythiad, yn canu yn ystod y digwyddiad.
Mae Undebau Llafur ac ymgyrchwyr iaith yn galw ar benaethiaid y BBC ac S4C i dynnu allan o drafodaethau gydag Adran Diwylliant y DG am ddyfodol y darlledwr Cymraeg.Ofna'r grwpiau pwyso fod trafodaethau tu ôl i'r llenni yn digwydd cyn sgrwitneiddio'r Mesur Cyrff Cyhoeddus - a fyddai'n caniatáu cwtogi dros 40% o gyllideb y sianel, newidiadau yn y drefn lywodraethol a'i diddymu'n llwyr - yn San Steffan.Mewn datganiad dywed undeb llafur BECTU: "Mae trafodaethau rhwng y BBC a S4C yn amhriodol cyn penderfyniadau a thrafodaethau yn San Steffan.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhoeddi bod 100 person eisoes wedi ymrwymo i wrthod talu eu trwydded teledu mewn protest yn erbyn y bygythiadau i S4C.Lansiodd y Gymdeithas ei hymgyrch mis diwethaf, ac, yn ôl y mudiad, o fewn pedwar diwrnod roedd y cant cyntaf wedi ymrwymo.
Mae protestwyr iaith wedi targedu swyddfa etholaeth yr Ysgrifennydd Diwylliant Jeremy Hunt heddiw (Dydd Mercher, Rhagfyr 15) mewn protest yn erbyn y toriadau i S4C a'r cynlluniau i uno'r sianel a'r BBC. Gosododd 3 ymgyrchydd bosteri lan ar swyddfa Jeremy Hunt yn Hindhead, Surrey.
Am y tro cyntaf yn hanes ein gwlad, mae'r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru. Rydym ni'n croesawu hyn a dylai fod yn destun balchder i'r genedl.Hoffwn gymryd cyfle i ddiolch i bob un sydd wedi bod yn rhan o'r ymgyrch am ddeddf iaith newydd, nid yn unig dros y misoedd prysur diwethaf ond dros y blynyddoedd diwethaf. Diolch i bob un ddaeth i rali neu brotest, i bob un a arwyddodd ddeiseb ac a lythyrodd; i'n haelodau benderfynodd weithredu'n ddi-drais; i'r rhai fu'n ein cynghori drwy'r broses a fu'n rhan o drefnu'r ymgyrch.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i gyhoeddiad strategaeth iaith y Llywodraeth. Fe ddywedodd Ceri Phillips, llefarydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Rydym yn croesawu gonestrwydd y Llywodraeth am y sefyllfa ieithyddol yng Nghymru, yn enwedig y ffocws ar ddefnydd yr iaith yn hytrach na niferoedd yn unig. Ond, er bod nifer o syniadau da yn y strategaeth, rydym yn amau parodrwydd gwasanaeth sifil y Llywodraeth i wireddu'r cynlluniau.
Fe wnaeth dwsin o aelodau o Gymdeithas yr Iaith wrthod talu am nwyddau yn siop Marks and Spencers yn Nhostre, Llanelli, heddiw gan adael eu nwyddau yn eu troliau siopa a cherdded allan.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg eisiau diolch i'r Aelodau Cynulliad a bleidleisiodd dros hawliau cyffredinol i'r iaith Gymraeg. Pleidleisiodd 16 o blaid, 32 yn erbyn a dim yn ymatal.Roedd hawliau wedi ei addo yng nghytundeb Cymru'n Un.