Achosodd protestwyr iaith oedi i lansiad swyddogol canolfan celfyddydau newydd gan y Prif Weinidog ym Mhrifysgol Bangor heddiw (Dydd Gwener, Ionawr 21).Fe ddaeth tua 16 o brotestwyr ynghyd gyda phosteri yn dweud "Ble mae'r Gymraeg?", "Pontio, fflop i'r gymuned a'r Gymraeg", ac "A fo ben bid fflop" gan lwyddo i atal y seremoni lansio swyddogol rhag mynd yn ei flaen am tua 20 munud.Mae'r
Dywed Sioned Elin, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin a rhiant yn Ysgol Bancffosfelen:"Rydym yn barod i dderbyn gair Bwrdd Gweithredol y Cyngor Sir eu bod yn barod i roi cyfle i ysgolion Llan-gain, Bancffosfelen a Llanedi i barhau i wasanaethu eu cymunedau.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am brotest o flaen cyfarfod o'r Pwyllgor Craffu addysg Cyngor Sir Gar i ddangos fod pobl y sir wedi cael digon o agwedd negyddol y Cyngor tuag at ysgolion a chymunedau pentrefol Cymraeg.
Mewn datblygiad hanesyddol heddiw, bydd papur o flaen Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cwsmeriaid Cyngor Sir Conwy am 2pm brynhawn heddiw (Bodlondeb, Conwy) yn argymell fod y Cyngor yn newid ei Strategaeth Moderneiddio Ysgolion i gydnabod gwerth ysgolion pentrefol Cymraeg. Mae'r adroddiad yn argymell y dylai pob opsiwn yn y dyfodol ystyried yn ddwys anghenion y gymuned leol.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi llongyfarch swyddogion Cyngor Conwy am eu parodrwydd i gymryd sylw o lais y bobl ac am eu penderfyniad i gryfhau ysgolion gwledig Cymraeg yn y sir.
Mynegodd ymgyrchwyr eu siom heddiw ar ôl i Gyngor Gwynedd bleidleisio dros barhau'r broses statudol ar gyfer cau Ysgol y Parc, ger y Bala.Daeth y penderfyniad wedi protest tu allan i swyddfeydd y Cyngor, gan wyth deg o brotestwyr gan gynnwys plant a rhieni'r ysgol, oedd yn gwrthwynebu cynlluniau'r cyngor.