Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu datganiad y Cynghorydd Liz Saville (deiliad portffolio Addysg Cyngor Gwynedd) fod yr hen gynllun ad-drefnu ysgolion wedi dod i ben ac nad oes bellach unrhyw restr o ysgolion i'w cau, nac ychwaith gynlluniau gorfodi newid ar ysgolion eraill.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar bawb sy'n rhydd i deithio i ddod i Gaernarfon am 1pm Iau 19eg Mehefin o flaen cyfarfod allweddol o Gyngor Sir Gwynedd. Bydd y Cyngor yn ystyried cynnig i sefydlu gweithgor i lunio polisi ad-drefnu newydd. Yn ôl y Pwyllgor Craffu Addysg, rhan o swyddogaeth y gweithgor hwnnw fydd "llunio rhestr o ysgolion i'w cau".
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw’r Aelod Cabinet dros addysg yn Sir Gaerfyrddin, Cyng. Ieuan Jones, yn 'Mr Anghofus' am iddo anghofio, yn gyfleus iawn, son wrth yr etholwyr yn yr Etholiad y mis diwethaf am y cynlluniau a ddadlennwyd heddiw i gael blwyddyn fawr o gau ysgolion pentrefol yn y sir.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar aelodau Pwyllgor Gwaith newydd Cyngor Ynys Mon i wrthsefyll pwysau gan y swyddogion o flaen cyfarfod allweddol fory (4/6) i drafod dyfodol ysgolion pentre.