Mae arweinwyr Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gâr wedi cymryd y cam eithriadol o feddiannu adeilad ysgol Mynyddcerrig a gaewyd ar ddiwedd y tymor diwethaf. Yn oriau man y bore heddiw torrodd yr aelodau i mewn i adeilad neuadd/ffreutur yr ysgol lle cynhaliwyd yr ymgynghori a newidiwyd y clo.
Bu dros 100 o bobl yn protestio tu allan i Neuadd y Sir, Caerfyrddin rhwng 8.30am a 10am y bore yma (23ain Gorffennaf ) cyn cyfarfod pwysig o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin. Trefnwyd y brotest gan rieni a llywodraethwyr, a bu aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yno yn cefnogi.
Bydd aelodau o Gymdeithas yr iaith Gymraeg yn cynnal cyfarfod gyda swyddogion yn y Cynulliad Cenedlaethol heddiw am 12.30 i drafod Deddf Iaith a dyfodol Ysgolion Pentrefol. Cafwyd cadarnhad y bydd y cyfarfodydd yn mynd rhagddynt er na bydd gweinidogion yn bresennol.
Am 10am bore heddiw, cyflwynodd Cymdeithas yr Iaith wys yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin i bedwar o brif gynghorwyr a swyddogion y Cyngor Sir.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw heddiw ar Blaid Cymru ac ar y Rhyddfrdwyr Democrataidd i sicrhau na chaiff Llafur Newydd fynd yn ei blaen i anwybyddu'r Gymru Gymraeg yn dilyn ei chwalfa yn yr Etholiad.