Mae Cymdeithas yr iaith yn cyhuddo swyddogion Cyngor Sir Caerfyrddin o geisio gorfodi aelodau etholedig i roi sel eu bendith ar gynlluniau gwario ar gyfres o ysgolion ardal canolog drwy'r sir, cyn iddynt gychwyn ar y broses o ymgynghori ar ddyfodol yr ysgolion pentrefol y byddid yn eu disodli.
Mae aelodau o Gymdeithas yr Iaith wedi galw ar Alun Pugh, Gweinidog Diwylliant y Cynulliad, i gondemnio Cyngor Sir Caerfyrddin am eu strategaeth addysg a allai arwain at gau degau o ysgolion pentrefol Cymraeg.
Bydd cynrychiolaeth o Gymdeithas yr Iaith yn protestio gyda rhiant heddiw, o flaen Ysgol Breifat Howell i ferched yn Ninbych ar ddiwrnod derbyn disgyblion newydd. Byddwn yn tynnu sylw at y ffaith fod ysgolion preifat yng Nghymru’n cael amddifadu’u disgyblion yn gyfangwbl o addysg Gymraeg ac o bob elfen o’r cwricwlwm Cymreig. Nid oes lle i drefn o’r fath yn y Gymru gyfoes.