Mewn llythyr agored at arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin (Cyng Emlyn Dole) ac at gadeirydd (Cyng Mair Stephens) ac is-gadeirydd (Cyng Cefin Campbell) y Panel Ymgynghorol ar y Gymraeg, mae Cymdeithas yr Iaith wedi holi a fydd polisi iaith newydd gan y Cyngor Sir erbyn diwedd y mis.
Gallai plant yn ardal Castell Nedd a Phort Talbot fod yr unig rai i gael eu hamddifadu o’r hawl i wersi nofio Cymraeg yn dilyn her gan yr awdurdod lleol i ddeddfwriaeth newydd.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar i'r Gweinidog Addysg ddatgan y bydd ehangu ar waith y Coleg Cymraeg wedi cyhoeddiad prynhawn yma bydd toriadau llai i'r sector addysg uwch na'r disgwyl.
Ymgasglodd ymgyrchwyr 'Tyfu nid Torri' yng Nghaernarfon mewn protest gweledol er mwyn ymwrthod â'r toriadau arfaethedig gan Gyngor Gwynedd fis Mawrth. Mae eu hymgyrch 'Tyfu nid Torri' yn gobeithio dwyn perswâd ar gynghorwyr Gwynedd i wneud safiad gwleidyddol a gwrthod y cyllid i’r Cyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf a fydd yn cael ei chyflwyno ger bron y Cyngor gan y cabinet yng nghyfarfod llawn y Cyngor fis Mawrth.