Mae aelodau o Gell Pantycelyn Cymdeithas yr Iaith wedi casglu wrth gangen Starbucks yn Aberystwyth heddiw (dydd Gwener 29/04) gan alw ar y cwmni i barchu'r Gymraeg.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi siom yn dilyn penderfyniad Llywodraeth San Steffan i dorri cyllid i’r iaith Gernyweg yn gyfan gwbl.
[Llofnodwch y ddeiseb drwy glicio yma]
Meddai Sioned Haf, Swyddog Rhyngwladol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, sydd â’r cyfrifoldeb o gadw mewn cysylltiad gydag ymgyrchwyr iaith rhyngwladol ar ran y mudiad iaith:
Mae polisi iaith newydd arfaethedig gan gyngor Ynys Môn yn peryglu defnydd o'r Gymraeg, medd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg cyn i gynghorwyr yr Ynys drafod y mater heddiw (dydd Llun, 25ain Ebrill).
Bydd cynghorwyr Ynys Môn yn trafod mabwysiadu polisi iaith newydd ddydd Llun a fyddai'n golygu rhoi statws swyddogol i'r Saesneg. Mewn llythyr at y cyngor, mae'r mudiad iaith yn rhybuddio bod y polisi yn camddeall ac yn camddehongli'r ddeddfwriaeth iaith ddiweddaraf, Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
Mae mudiad iaith wedi cyhoeddi marciau ar gyfer maniffestos chwe phlaid sy'n sefyll yn etholiadau'r Cynulliad o ran yr effaith y byddai'r cynigion yn eu cael ar y Gymraeg.
Beirniadodd panel o aelodau gwirfoddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg y maniffestos yn unol â'r cynigion polisi a amlinellwyd yn rhaglen y grŵp pwyso ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru, sef y ddogfen "Miliwn o Siaradwyr Cymraeg: Gweledigaeth o 2016 ymlaen" a gyhoeddwyd y llynedd.
Mewn cyfarfod cyngor arbennig heddiw (dydd Iau 21ain o Ebrill) penderfynodd cyfarfod llawn Cyngor Sir Benfro ar safle ar gyfer ysgol Gymraeg 3-16 yn Hwlffordd.
Dywedodd Bethan Williams, swyddog maes Dyfed Cymdeithas yr Iaith
Mae caredigion iaith wedi croesawu lansiad sianel ar-lein newydd S4C heddiw, sy'n dilyn ymgyrch dros ddarpariaeth aml-lwyfan Gymraeg.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi bod yn galw am 'S4C newydd' ers dros bum mlynedd ac wedi galw am ddarlledwr newydd sy'n darllen ar nifer fawr o blatfformau amrywiol. Mae ymchwil yn dangos bod pobl, yn enwedig pobl ifanc, yn derbyn fwyfwy o'u newyddion ac adloniant ar gyfryngau nad ydynt yn radio a theledu.
Mae pryderon bod un o asiantaethau Llywodraeth Cymru yn cynllunio parhau gyda dysgu'r Gymraeg fel ail iaith, er gwaethaf addewid gan y Prif Weinidog y byddai'r pwnc yn cael ei disodli gydag un continwwm o ddysgu'r Gymraeg i bawb.
[Cliciwch yma i ymateb i holiadur Cymwysterau Cymru]
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu penderfyniad pwyllgor cynllunio i wrthod cais i adeiladu dros dri chant o dai yn ardal Bangor.
Ysgrifennodd y mudiad at bwyllgor cynllunio y cyngor ychydig fisoedd yn ôl gan eu hatgoffa o'u pwerau newydd i wrthod datblygiadau ar sail eu heffaith ar yr iaith.
Dywedodd Bethan Ruth, swyddog maes lleol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: