Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu'r ffaith fod awdurdodau lleol bellach yn gorfod cydnabod hawl pobl i wersi nofio a chyrsiau eraill yn Gymraeg, wrth i reoliadau newydd ddod i rym.
O’r 30ain o Fawrth bydd gennych chi'r hawl i gael gwersi nofio yn Gymraeg! Cysylltwch â’ch canolfan hamdden leol heddiw i ddefnyddio eich hawl newydd! Mae rhifau ffôn bob cyngor, a mwy o fanylion am y Safonau, i’w gweld yma: http://cymdeithas.cymru/fyhawl
Mi fydd grŵp o ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith yn ymweld ag Iwerddon wythnos nesaf (28ain Mawrth ymlaen) i rannu syniadau am sut i gryfhau ieithoedd lleiafrifol.
Pwrpas y daith fydd i ymweld gydag ymgyrchwyr iaith, mentrau iaith, prosiect Gaeltacht yn Co.Meath ynghyd â chyfarfod gyda Chomisiynydd yr Iaith Wyddeleg. Bydd y daith yn gyfle i ymgyrchwyr iaith Cymru i ddysgu am hanes, herion ac ymarferion da prosiectau yn Iwerddon, ynghyd â rhannu gwybodaeth gyda’r Gwyddelod am y sefyllfa ieithyddol bresennol yng Nghymru.
Yn dilyn penderfyniad Cyngor Sir Benfro i osod treth cyngor o 50% ar dai gwag ac ail gartrefu, i sefydlu gweithgor i adolygu effaith y penderfyniad a bod yr arian ychwanegol yn mynd at gronfa dai fforddiadwy a gwasanaethau lleol dywedodd Tamsin Davies, cadeirydd grŵp cymunedau cynaliadwy o Gymdeithas yr Iaith:
Caiff canllawiau iaith i gynghorau cymuned eu newid yn dilyn penderfyniad dadleuol yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus am bolisi cyngor cymuned yn Sir Ddinbych, mae'r Prif Weinidog wedi dweud wrth ymgyrchwyr iaith.
Wrth groesawu penderfyniad Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant Cyngor Sir Gaerfyrddin heddiw i roi mwy o amser i ysgol Bancffosfelen a Llanedi baratoi cynllun i sicrhau dyfodol eu hysgol mae'r Gymdeithas wedi galw am i hyn fod yn ddechrau newydd i'r Cyngor yn hytrach na bod yn fesur dros dro.
Dywedodd Ffred Ffransis:
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar bwyllgor o Gyngor Sir Caerfyrddin i gyfarwyddo swyddogion y Cyngor i “weithio mewn partneriaeth gyda llywodraethwyr ysgol leol i ddatblygu model newydd a allai greu gobaith i gymunedau eraill.”
Mae llywodraethwyr a’r gymuned leol ym Mancffosfelen wedi brwydro i gadw eu hysgol ers 12 mlynedd ers i’r Cyngor Sir roi’r ysgol ar restr o ddwsinau o ysgolion yr hoffent eu cau. Ddydd Mercher nesaf, bydd Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant y Cyngor yn trafod dyfodol yr ysgol.