Mae mudiad iaith wedi gwneud cwyn ffurfiol i'r rheoleiddiwr teledu am bolisi S4C o orfodi gwylwyr i wylio llawer mwy o raglenni gydag isdeitlau Saesneg nad oes modd eu diffodd yr wythnos hon.
Mae'r gwyn yn dilyn llif o anniddigrwydd ar-lein ynghylch ymgyrch farchnata S4C sy'n golygu y bydd y rhan fwyaf o raglenni yn ystod oriau brig y sianel gydag is-deitlau Saesneg gorfodol. Mae ymgyrchwyr o'r farn bod y penderfyniad i orfodi is-deitlau Saesneg yn anghyfreithlon gan fod deddfwriaeth yn gosod dyletswydd ar y sianel i ddarlledu rhaglenni Cymraeg yn y rhan fwyaf o'u horiau brig. Maen nhw hefyd yn dadlau bod S4C yn torri eu dyletswyddau i ddarparu is-deitlau Cymraeg.
Mewn llythyr o gwyn at y rheoleiddiwr darlledu Ofcom, dyweda Curon Wyn Davies, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Credwn fod y sianel yn torri Cod Ofcom ar Wasanaethau Mynediad Teledu, yn ogystal â mynd yn groes i bwrpas y sianel fel y'i datganir yn Neddf Darlledu 1990. Mae’r ddeddf yn gosod dyletswydd statudol ar S4C i ddarlledu rhaglenni Cymraeg yn bennaf yn ystod yr oriau brig.
"Gyda chynnydd sylweddol yn nifer y rhaglenni a ddarlledir gan y sianel lle mae gorfodaeth i'w gwylio yn Saesneg, credwn fod y sianel yn gweithredu'n groes i'r cod a'r ddeddfwriaeth.
"Dywed S4C mai 'arbrawf' am bum niwrnod yn unig fydd hwn. Fodd bynnag, mewn gwirionedd, credwn fod y penderfyniad yn golygu na fydd gwasanaeth teledu Cymraeg yr wythnos hon. Bydd gwasanaeth dwyieithog yn unig yn hytrach nag un Cymraeg. Yn ogystal, credwn, er bod S4C yn ceisio gwadu hyn, fod yr 'arbrawf' yn gosod cynsail peryglus o ran eu darpariaeth yn y dyfodol.
"Cwynwn hefyd nad yw is-deitlau Cymraeg ar gael ar gyfer y rhaglenni hyn – yn wir, yn ôl ein cyfrifon mae is-deitlau Cymraeg ar gyfer llai na 7% o holl raglenni'r sianel. Nod S4C yw darparu gwasanaethau Cymraeg, felly wrth reswm, dylai unrhyw wasanaeth Saesneg maent yn ei gynnig eisoes fod ar gael yn Gymraeg. Mae S4C wedi methu â darparu is-deitlau Cymraeg digonol er gwaetha'r ffaith eu bod yn wasanaeth hanfodol i bobl â nam ar eu clyw, a'r ffaith eu bod yn llawer mwy defnyddiol nac is-deitlau Saesneg wrth ddysgu'r iaith.
"Mae'n holl bwysig, o ystyried sefyllfa'r iaith, bod gwasanaeth neu opsiwn Cymraeg yn cael ei gynnig yn rhagweithiol – mae'n hynod anffodus bod nhw'n mynd yn gwbl groes i'r egwyddor trwy orfodi gwasanaeth is-deitlo uniaith Saesneg."